01
March
2016
|
08:19
Europe/London

Band eang cyflym iawn ar gael bellach i dros 65% o aelwydydd a busnesau Tyddewi

Summary
Bydd gan drigolion Tyddewi reswm arall i ddathlu ar 1 Mawrth, a hynny am fod band eang cyflym iawn ar gael bellach i dros 65 y cant o'r cartrefi a'r busnesau yn ninas leiaf Prydain.

Bydd gan drigolion Tyddewi reswm arall i ddathlu ar 1 Mawrth, a hynny am fod band eang cyflym iawn ar gael bellach i dros 65 y cant o'r cartrefi a'r busnesau yn ninas leiaf Prydain.

Mae llai na 2,000 o bobl yn byw yn y ddinas hon, sy'n enwog nid yn unig am mai hi yw'r leiaf ym Mhrydain, ond hefyd am mai yno y mae gorweddfan nawddsant Cymru, Dewi Sant.

Partneriaeth yw Cyflymu Cymru rhwng Llywodraeth Cymru a BT, ac mae cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Broadband Delivery UK (BDUK) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

Mae’r rhaglen yn dod â band eang cyflym iawn i ardaloedd lle na fyddai modd ei ddarparu fel arall. Nid oedd y cwmnïau preifat sy'n darparu band eang cyflym iawn yn bwriadu cyflwyno’r gwasanaeth yn unrhyw un o ardaloedd cyfnewidfeydd ffôn Sir Benfro oherwydd eu bod o'r farn na fyddai'n fasnachol hyfyw iddyn nhw wneud hynny ar eu pen eu hunain.

Erbyn hyn, mae band eang cyflym iawn ar gael i dros 65 y cant o'r adeiladau yn ardal cyfnewidfa Tyddewi, ac mae'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth yn parhau wrth i beirianwyr Openreach gysylltu mwy a mwy o adeiladau bob dydd, gan wneud hynny dan amodau anodd yn aml.

Erbyn hyn, mae band eang cyflym iawn ar gael i dros 70 y cant o gartrefi a busnesau Sir Benfro, diolch i raglen Cyflymu Cymru, ac mae'r gwaith o'i gyflwyno yn parhau ar draws y sir.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:

"Mae Tyddewi yn un o nifer o ardaloedd ar draws Cymru na fyddai modd iddi gael band eang cyflym iawn pe na bai rhaglen Cyflymu Cymru yn ymyrryd. Mae band eang mwy cyflym yn dod â manteision lu i gartrefi ac i fusnesau, ac er nad yw'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth wedi'i gwblhau o bell ffordd, dw i'n falch bod dros 65 y cant ohonyn nhw yn y rhan hardd a hanesyddol hon o Gymru yn gallu elwa arno erbyn hyn.

"Rydyn ni wedi ymyrryd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyflym iawn ar gael, a hynny am fod cwmnïau preifat wedi penderfynu nad oedd yn fasnachol hyfyw iddyn nhw fynd ati ar eu pen eu hunain i gyflwyno gwasanaethau ffibr yn yr ardaloedd hyn. Diolch i'r rhaglen, mae dros 560,000 o adeiladau ym mhob cwr o Gymru yn gallu manteisio ar y gwasanaethau hyn, ac mae’r gwaith o’u darparu ar gyfer rhagor o gartrefi a busnesau yn dal i fynd rhagddo."

Mae'r gwasanaethau cyflym iawn hyn yn golygu bod y rhyngrwyd yn gynt a bod modd gwneud gwell defnydd ohono. Er enghraifft, mae'n golygu bod pawb yn y tŷ yn gallu dilyn eu trywydd eu hunain ar y we, i gyd ar yr un pryd, boed hynny’n ffrydio ffilmiau, yn lawrlwytho cerddoriaeth, yn astudio neu'n cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid.

Mae rhaglen Cyflymu Cymru yn brosiect enfawr. Bydd peirianwyr Openreach yn gosod 17,500 o gilometrau o geblau ffibr optig a rhyw 3,000 o flychau gwyrdd newydd wrth ochr y ffordd. Ar gyfartaledd, bydd dros 100 o adeiladau ar draws Cymru yn cael eu cysylltu â band eang cyflym iawn bob awr. I weld a yw band eang iawn cyflym iawn ar gael iddyn nhw, gall aelwydydd a busnesau fynd i www.superfast-cymru.com.

Os yw band eang cyflym iawn ar gael i aelwydydd a busnesau, ni fyddant yn cael eu huwchraddio'n awtomatig, a dylent gysylltu â'u Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd os ydynt am newid o fand eang confensiynol.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau hefyd er mwyn i fusnesau fanteisio ar fand eang gwibgyswllt, ac mae hyd at £10,000 ar gael er mwyn gosod y gwasanaeth hwnnw. Os nad yw cartrefi a busnesau'n gallu cael band eang cyflym iawn drwy raglen Cyflymu Cymru, mae grantiau ar gael iddyn nhw hefyd er mwyn iddyn nhw gael band eang cyflym iawn mewn ffyrdd eraill, megis drwy loeren. Mae rhagor o fanylion am y cynlluniau hynny i'w gweld yma: llyw.cymru/bandeang.