07
March
2016
|
09:56
Europe/London

Band eang cyflym iawn yn cyrraedd Capel Curig

Summary
Gall y cartrefi a'r busnesau cyntaf sy'n cael eu gwasanaethu gan gyfnewidfa Capel Curig ym mherfeddion Eryri fynd ati bellach i archebu band eang cyflym iawn, diolch i raglen Cyflymu Cymru.

Gall y cartrefi a'r busnesau cyntaf sy'n cael eu gwasanaethu gan gyfnewidfa Capel Curig ym mherfeddion Eryri fynd ati bellach i archebu band eang cyflym iawn, diolch i raglen Cyflymu Cymru.

Ar ôl i waith gael ei wneud ar y gyfnewidfa, dechreuwyd ar y rhaglen i gyflwyno band eang cyflym iawn yn yr ardal. Bydd y gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth yn parhau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf er mwyn i fwy o ddefnyddwyr yn yr ardal fedru manteisio ar y band eang cyflymach.

Newydd ddechrau mae'r gwaith yng Nghapel Curig ac os hoffai trigolion gael gwybod a yw'r gwasanaeth ar gael iddynt yn barod ‒ neu gael gwybod pryd mae hynny'n debygol o fod yn bosibl ‒ dylent fynd i www.superfast-cymru.com

Mae gwasanaeth band eang cyflym iawn ar gael eisoes i dros 80% o safleoedd yn Sir Conwy, diolch i raglen Cyflymu Cymru. Mae'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth yn parhau ar draws y sir wrth i beirianwyr Openreach, busnes rhwydweithiau lleol BT, gysylltu mwy a mwy o adeiladau bob dydd, gan wneud hynny dan amodau anodd yn aml.

Partneriaeth yw Cyflymu Cymru rhwng Llywodraeth Cymru a BT, ac mae cyllid ychwanegol yn cael ai ddarparu gan Broadband Delivery UK (BDUK) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

Mae’r rhaglen yn dod â band eang cyflym iawn i ardaloedd lle na fyddai modd ei ddarparu fel arall.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:

"Heb raglen Cyflymu Cymru, fyddai band eang cyflym iawn ddim ar gael o gwbl yng Nghapel Curig.

"Dw i'n falch o weld bod yr adeiladau cyntaf sy'n cael eu gwasanaethu gan y gyfnewidfa yn gallu manteisio arno erbyn hyn.

"Mae Capel Curig ym mherfeddion Eryri yng nghanol mynyddoedd uchaf Cymru felly roedd hi'n anochel y byddai cyflwyno band eang cyflym iawn yn gryn her yma, ond mae'r rhaglen ar droed dechrau erbyn hyn."

Mae rhaglen Cyflymu Cymru yn brosiect enfawr. Bydd peirianwyr Openreach yn gosod 17,500 o gilometrau o geblau ffibr optig a rhyw 3,000 o flychau gwyrdd newydd wrth ochr y ffordd. Ar gyfartaledd, bydd dros 100 o adeiladau ar draws Cymru yn cael eu cysylltu â band eang cyflym iawn bob awr.

Os yw band eang cyflym iawn ar gael i aelwydydd a busnesau, ni fyddant yn cael eu huwchraddio'n awtomatig, a dylent gysylltu â'u Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd os ydynt am newid o fand eang confensiynol.

Os nad yw cartrefi a busnesau'n gallu cael band eang cyflym iawn drwy raglen Cyflymu Cymru, mae grantiau ar gael iddyn nhw hefyd er mwyn iddyn nhw gael band eang cyflym iawn mewn ffyrdd eraill, megis drwy loeren.

Mae rhagor o fanylion am y cynlluniau hynny i'w gweld yma: llyw.cymru/bandeang