07
November
2016
|
09:40
Europe/London

BT yn cyfrannu £774 miliwn at economi Cymru

Summary
Dros y flwyddyn ddiwethaf cyfrannodd BT £774 miliwn at economi Cymru, yn ôl astudiaeth annibynnol a gyhoeddwyd heddiw.

Caffaelio EE yn atgyfnerthu safle BT fel cyflogwr blaenllawyn gyfrifol am oddeutu 9,840 swydd yng Nghymru

BT yn gwario £284 miliwn y flwyddyn gyda chyflenwyr lleol

CBI yn canmol cyfraniad BT at yr economi

Dros y flwyddyn ddiwethaf cyfrannodd BT £774 miliwn at economi Cymru, yn ôl astudiaeth annibynnol a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r adroddiad gan Regeneris Consulting yn nodi effeithiau enfawr gweithgareddau BT, yn cynnwys caffaelio EE, sydd wedi cryfhau sefyllfa’r cwmni cyfathrebu fel un o brif gyflogwyr y genedl.

Datgelodd fod BT yn cefnogi oddeutu 9,840 swydd ar draws y wlad drwy gyfrwng cyflogaeth uniongyrchol, gwario gyda chontractwyr a chyflenwyr, a gwariant ei weithwyr.

Croesawyd yr adroddiad gan y CBI (Conffederasiwn Diwydiant Prydain).

Dywedodd Emma Watkins, cyfarwyddwraig Cymru y CBI: “Mae’r ymchwil diweddaraf yma’n dangos rôl allweddol BT yn ein cymunedau lleol. Nid oes unrhyw berson busnes neu deulu yng Nghymru nad yw - yn uniongyrchol neu anuniongyrchol - yn cael ei effeithio gan weithgareddau BT fel cyflenwr gwasanaethau hanfodol megis band llydan uwchgyflym, neu fel cyflogwr, buddsoddwr neu brynwr.

“Mewn byd cystadleuol, ble mae masnach a chysylltiadau’n croesi ffiniau rhanbarthol a chenedlaethol, mae cysylltiadau cyfathrebu cyflym ac effeithiol yn gwbl hanfodol.”

Yn nhermau cyflogaeth, roedd effaith BT ac EE yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16 yn fwy na’r sector peirianneg yng Nghymru.

Roedd BT a busnes EE yn cyflogi bron 3,890 gweithiwr yn uniongyrchol - yn cyfateb i un o bob 7 gweithiwr yn sector cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth Cymru. Gwariodd oddeutu £284 miliwn gyda chyflenwyr Cymreig.

Mynegir effeithiau economaidd cyffredinol gweithgareddau BT ac EE fel “Gwerth Ychwanegol Gros (Gross Value Added - GVA*). Yn achos Cymru roedd GVA BT yn werth £774 miliwn - yn cyfateb i £1 o bob £80 o gyfanswm GVA Cymru.

Mae’r adroddiad yn amlinellu cyfraniad economaidd cyfun BT ac EE ar draws yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn y flwyddyn ariannol 2015-16.

Dywedodd Tim Fanning, cyfarwyddwr cysyltiol Regeneris Consulting (Manceinion/Llundain): “Mae ein dadansoddiad diweddaraf yn dangos fod BT ac EE ar y cyd wedi cyfrannu oddeutu £1 o bob £70 o gynnyrch economaidd y Deyrnas Unedig yn 2015/16. Cyfraniad economaidd sylweddol, sydd wedi lledu drwy gymunedau ar hyd a lled y wlad.”

Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwraig Cymru BT: “Nid oes llawer o gyrff yn cael effaith fwy positif ac uniongyrchol ar economi a chymunedau Cymru na BT.

“Wrth gaffaelio EE byddwn yn gallu buddsoddi hyd yn oed mwy, gan alluogi pobl yn byw a gweithio yng Nghymru i gael y gwasanaethau cyfathrebu gorau - gwasanaethau llinell sefydlog, symudol a band llydan - yn awr ac yn y dyfodol.

“Yn ogystal â hwyluso busnes a chyfathrebu ar gyfer teuluoedd, gweithwyr cartref, cwmnïau a chyrff eraill, mae BT yn helpu cwmnïau a chyflenwyr Cymreig wrth brynu cynnyrch a gwasanaethau, a gwariant ei weithwyr.”

Yn ôl yr adroddiad roedd BT yng Nghymru, yn cynnwys EE, yn gyfrifol am gyflogi oddeutu 3,890 person a chontractwr yn 2015-16 - gyda chyfanswm incwm o oddeutu £112 miliwn, ac yn darparu gwaith ar gyfer 5,960 person pellach wrth wario gyda busnesau sy’n cyflenwi offer a gwasanaethau, ynghyd â gwariant gan ei weithwyr.

Mae’r cwmni yn cyflogi staff ar draws y wlad, yn cynnwys canolfannau gwasanaeth yn ardaloedd Caerdydd, Abertawe, Merthyr a Bangor.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Openreach - busnes rhwydwaith lleol BT - sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer cannoedd o gwmnïau cyfathrebu a’u cwsmeriaid, ei fod wedi recriwtio dros 100 o beirianwyr ychwanegol ar draws y wlad er mwyn helpu i osod llinellau newydd a chlirio namau’n gyflymach.

Mae’r recriwtiaid newydd hefyd yn gweithio i ledu band llydan ffeibr i fwy o gartrefi a busnesau tu hwnt i’r 1.3 miliwn sydd eisoes yn gallu cael y dechnoleg uwchgyflym yng Nghymru.

Hyd yma, mae BT wedi buddsoddi dros £3 biliwn mewn band llydan ffeibr ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys gwaith mewn partneriaeth â’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill er mwyn darparu’r dechnoleg ar draws y wlad, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.

Yng Nghymru, BT yw prif bartner sector preifat rhaglen Cyflymu Cymru.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd BT byddai Openreach ac EE yn buddsoddi tua £6 biliwn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf fel rhan o gymal cyntaf cynllun i ymestyn darpariaeth band llydan uwchgyflym a 4G tu hwnt i 95% o’r wlad erbyn 2020.

Ar ben hynny, mae’r cwmni am ddarparu band llydan tra-chyflym ar gyfer hyd at 12 miliwn cartref a busnes yn y DU erbyn diwedd 2020 wrth ddefnyddio technolegau G.fast ac FTTP (ffeibr i’r adeilad) - gyda rhannau o Abertawe eisoes yn elwa o’r dechnoleg newydd hon.

Ar draws y Deyrnas Unedig, amcangyfrifwyd cyfraniad GVA BT ac EE yn 2015/16 i fod yn werth £23.1 biliwn, gyda’r cwmni yn cefnogi 259,000 swydd yn uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mae effeithiau economaidd llawn BT ac EE yn cyfateb i £1 o bob £70 o GVA yn economi’r Deyrnas Unedig ac un o bob 95 swydd yn y DU.

Copi o’r adroddiad llawn yn: www.bt.com/reports