10
August
2017
|
10:48
Europe/London

BT yw’r cwmni sector preifat cyntaf i gofrestru ar gyfer ‘Cymraeg Gwaith’

Summary
BT Cymru Wales yw’r cwmni sector preifat cyntaf i gofrestru ar gyfer rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’.

BT Cymru Wales yw’r cwmni sector preifat cyntaf i gofrestru ar gyfer rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’.

Bydd pecyn o gyrsiau Cymraeg, wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer BT Cymru/Wales, ar gael i weithwyr y cwmni - oddeutu 4,000 o bobl.Bydd y pecyn yn cynnwys cyrsiau dwys llawn a rhan amser, cyrsiau preswyl pum niwrnod o hyd a’r cwrs ar-lein 10-awr.

Mae’r rhaglen addysgu ‘Cymraeg Gwaith’, yn menter newydd i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle, wedi’i datblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r cwrs, sy’n rhoi blas o’r iaith i ddechreuwyr, yn cyflwyno ymadroddion syml a geirfa sylfaenol.Mae modd ei ddilyn ar ddyfeisiau electronig yn y gwaith neu adref ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwyr.

Meddai Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru/Wales:

“Mae gan BT bresenoldeb sylweddol yng Nghymru ac rydym yn falch iawn i fod y cyflogwr mawr cyntaf i weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar y rhaglen newydd yma, sy’n cefnogi datblygiad proffesiynol ein gweithwyr ac sy’n cryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gweithleoedd ledled y wlad.

“Fel sefydliad, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cynrychioli ein cwsmeriaid yng Nghymru ac mae’r gallu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn rhan naturiol o hynny.Trwy roi’r cyfle i’n cydweithwyr ddysgu’r Gymraeg, ry’n ni’n eu galluogi i ddatblygu sgil gwerthfawr newydd ac yn cryfhau ymhellach ein gwasanaethau cwsmer.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae ‘Cymraeg Gwaith’ yn cynnig pecyn o gyrsiau Cymraeg hyblyg, wedi’u hariannu’n llwyr, y mae modd eu teilwra ar gyfer anghenion gwahanol sectorau a gweithleoedd unigol.

“Rydym yn hapus iawn bod BT yn arwain y ffordd yng Nghymru trwy gynnig rhaglen o gyrsiau newydd i’w gweithwyr.”