Cefnogaeth BT o economi Cymru yn tyfu i £575 miliwn
Cynhyrchodd BT gymaint â £575 miliwn ar gyfer economi Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf - cynnydd o £35 miliwn mewn dwy flynedd, yn ôl adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd heddiw.
Yn ogystal, dengys yr adroddiad gan Regeneris Consulting bod y cwmni cyfathrebu’n cefnogi 7,520 swydd yng Nghymru wrth gyflogi pobl yn uniongyrchol, gwario gyda chontractwyr a chyflenwyr, a gwariant ei weithwyr.
Yn nhermau cyflogaeth, roedd effaith BT yn 2014-15 yn fwy na sector creadigol a chyfryngau’r wlad. Gwariodd oddeutu £213 miliwn gyda chyflenwyr lleol.
Mynegir effeithiau ariannol cyffredinol gweithgareddau BT fel cyfraniad ‘Gwerth Ychwanegol Gros’ (Gross Value Added - GVA*). Yn achos Cymru roedd GVA BT yn werth £575 miliwn - yn cyfateb i £1 o bob £90 o gyfanswm GVA Cymru.
Dywedodd Tim Fanning, cyfarwyddwr cysylltiol, Regeneris Consulting: “Mae ein dadansoddiad yn cadarnhau maint a chwmpas cyfraniad economaidd BT at Gymru a’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol.
“Mae BT yn cyfrannu at bob cymuned ar draws y Deyrnas Unedig. Ar draws y Deyrnas Unedig gellir priodoli £1 o bob £80 o’r cyfoeth a grëwyd i BT - un o’r cyfraniadau unigol mwyaf at economi’r Deyrnas Unedig gan unrhyw gwmni.”
Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwraig Cymru BT: “Nid oes llawer o gyrff yng Nghymru yn cael effaith fwy ar fywyd beunyddiol a rhagolygon y wlad ar gyfer y dyfodol na BT.
“BT yw un o’r cyflogwyr a buddsoddwyr sector preifat mwyaf yng Nghymru - gyda’n buddsoddiad mewn band llydan ffeibr yng Nghymru ar ben ei hun yn werth cannoedd o filiynau o bunnoedd - a’n gwasanaethau yn elfen hanfodol o bob cymuned.
“Mae’r ffeithiau a ffigurau yn yr adroddiad hwn yn tanlinellu cyfraniad BT at economïau lleol wrth i ni wneud ein gwaith beunyddiol o gynnal cysylltiadau cyfathrebu pobl a chyflwyno technolegau newydd, gan greu cyfleoedd newydd a thrawsnewid bywydau.
“Ar wahân i weithgareddau’r cwmni, mae’r adroddiad hefyd yn crybwyll y ffyrdd positif mae pobl BT yn cyfrannu at y cymunedau ble maent yn byw a gweithio, boed wrth wirfoddoli ar gyfer achos da neu siopa’n lleol.”
Mae ‘Astudiaeth Gymdeithasol 2015 - Effaith Economaidd BT yn y Deyrnas Unedig’ yn dadansoddi rôl allweddol BT a’i weithwyr ym mywyd economaidd, busnes a chymunedol rhanbarthau Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae’n pwysleisio cyfraniadau positif BT drwy gyflogau gweithwyr a chontractwyr, ac effeithiau gwaith caffaelio a gwariant cyffredinol ar draws y Deyrnas Unedig.
Cyfraniad BT yng Nghymru:
- Cyfrifol am gyflogi 2,950 person - 2,790 gweithiwr uniongyrchol a 164 contractwr - gyda chyfanswm incwm o £94 miliwn;
- Cynnal gwaith 4,570 person arall wrth wario gyda busnesau sy’n cyflenwi offer a gwasanaethau, a gwariant ei weithwyr;
- Neilltuo dros £1 miliwn ar gyfer rhaglenni cymunedol, elusennol a gwirfoddol, ar draws sawl rhanbarth yn 2014/15;
- Hwyluso gwaith hyblyg gan dros dri chwarter o’i weithwyr - 77%.
Mae BT yn buddsoddi dros £3 biliwn ar rwydwaith band llydan ffeibr y Deyrnas Unedig drwy ei raglen fasnachol ei hun ac wrth gydweithio â’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol mewn partneriaethau er lledu band llydan yr oes nesaf yn fwy eang - yn arbennig i gymunedau gwledig a diarffordd.
Yng Nghymru, BT yw prif bartner sector preifat rhaglen Cyflymu Cymru. Drwy’r bartneriaeth hon a rhaglen fasnachol BT, mae’r cwmni eisoes wedi darparu band llydan ar gyfer dros 1.2 miliwn cartref a busnes yng Nghymru - gyda’r nifer yn cynyddu’n gyflym.
Yn ogystal, mae’r adroddiad yn tanlinellu’r ffaith fod BT yn gyson yn un o fuddsoddwyr mwyaf y wlad ym maes arloesi, gyda gwariant ar ymchwil a datblygu ym mlwyddyn ariannol 2014/15 wedi cyrraedd £502 miliwn. Ymhlith y datblygiadau diweddaraf, mae’r cwmni wedi dechrau profion yn Abertawe o fand llydan G.fast tra-chyflym, sydd eisoes yn derbyn deunydd ar gyflymder hyd at 330 megabit yr eiliad (Mbps).
Bydd yn darparu’r dechnoleg ar gyfer 10 miliwn cartref a busnes yn y Deyrnas Unedig erbyn diwedd 2020, a’r mwyafrif o adeiladau o fewn degawd.
Mae gwirfoddoli hefyd yn elfen ganolog o strategaeth BT. Y llynedd, cyfrannodd pobl BT yng Nghymru 2,416 o ddiwrnodau gwirfoddol at achosion da, gan gynrychioli nwyddau mewn cymorth gwerth bron £750,000. Ar draws y Deyrnas Unedig, roedd y ffigur yn 50,500 diwrnod, gwerth dros £15 miliwn.
Ar ben hynny, mae MyDonate - gwasanaeth codi arian arlein BT (nad yw’n codi comisiwn) – wedi helpu i godi dros £1m ar gyfer elusennau Cymreig.
Ychwanegodd Alwen Williams: “Mae’n glir bod pobl BT drwy Gymru am wneud cyfraniad positif at y cymunedau ble maent yn byw a gweithio. Bob dydd bydd BT yn cysylltu â bywydau miliynau o bobl, gan eu helpu i gyfathrebu a gwneud busnes, a derbyn adloniant a gwybodaeth.”
Ar draws y Deyrnas Unedig, aseswyd cyfanswm cyfraniad GVA BT i fod yn werth £18 biliwn. Mae’r cwmni’n cynnal 217,000 swydd yn uniongyrchol ac anuniongyrchol, a’r llynedd gwariodd £6.5 biliwn gyda chyflenwyr yn y Deyrnas Unedig. Ar sail cyfraniad economaidd llawn BT, mae’r cwmni yn cefnogi £1 o bob £80 o GVA yn economi’r Deyrnas Unedig ac un allan o bob 110 gweithiwr yn y DU.
Mae copi o’r adroddiad llawn yn www.bt.com/reports