14
July
2017
|
09:35
Europe/London

Cwmni Denim o Aberteifi â band eang cyflym iawn

Summary
​Mae cwmni o Aberteifi, Ceredigion, sy’n cynhyrchu jeans o safon uchel, a sydd â chwsmeriaid ledled Prydain ac ymhellach, yn elwa o fand eang cyflym iawn, diolch i Cyflymu Cymru.

Mae cwmni o Aberteifi, Ceredigion, sy’n cynhyrchu jeans o safon uchel, a sydd â chwsmeriaid ledled Prydain ac ymhellach, yn elwa o fand eang cyflym iawn, diolch i Cyflymu Cymru.

Cafodd Hiut Denim Co ei sefydlu yn 2012 gan David a Clare Hieatt, ac mae eu canolfan ym Mharc Teifi yn Aberteifi. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 18 o bobl, wedi derbyn band eang cyflym iawn a bellach yn gallu sicrhau cyflymder o hyd at 55Mbps yn ei ffatri.

Mae twf y cwmni eleni eisoes 42% yn fwy na’r llynedd. Mae 90% o’i gynnyrch yn cael ei werthu’n uniongyrchol ar-lein gyda’r mwyafrif ohono yn mynd i gwsmeriaid yn y DU, 10% i’r farchnad Americanaidd a 10% i Ewrop.

Meddai David Hieatt, cyd-sylfaenydd Hiut Denim Co: “Mae gan Aberteifi hanes o gynhyrchu jeans, ac rydym yn awyddus i ddod â’r diwydiant yn ôl i Orllewin Cymru trwy ddefnyddio sgiliau rhagorol y gweithlu yma. Mae’n lle gwych i gynnal busnes ac roeddem am ddod â’r cynhyrchu yma.

“Mae gennym ddwy ffatri yn Hiut Denim Co. Mae un yn cynhyrchu jeans a’r llall yn ffatri cynnwys i helpu inni eu gwerthu. Mae band eang cyflym iawn yn hollol hanfodol. Mae angen band eang cyflym iawn ar ffatri gynnwys, yn yr un ffordd ag y mae ffatri jeans angen trydan.

“Mae band eang cyflym iawn wedi gwneud gwahaniaeth mawr inni. Mae’n haws marchnata ar-lein a hysbysu ein cwsmeriaid o’r datblygiadau diweddaraf. Rydym yn defnyddio y cyfryngau cymdeithasol yn helaeth, ac mae gennym dros 10,000 o ddilynwyr ar Twitter sydd am gael y newyddion diweddaraf am ein cynnyrch.”

Meddai Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Mae’n wych clywed am brofiadau cwmnïau fel Hiut Denim a’r gwahaniaeth y mae band eang cyflym iawn wedi ei wneud iddynt. Maent wedi dewis cael eu canolfan yn Aberteifi, gan greu swyddi pwysig yn yr ardal, ac mae’n dda gweld bod Cyflymu Cymru yn cael effaith yma.

“Ledled Cymru gall dros 645,000 o adeiladau bellach ddefnyddio band eang cyflym iawn diolch i’r rhaglen, a bydd sawl adeilad arall yn cael eu hychwanegu cyn diwedd y flwyddyn. Diolch i Cyflymu Cymru, mae gan fwy o ardaloedd yng Nghymru fynediad i fand eang cyflym iawn na’r un wlad ddatganoledig arall, gyda mwy nag wyth allan o ddeg adeilad yn gallu ei ddefnyddio.

“Mae’n bwysig nodi, heb ymyrraeth y rhaglen, na fyddai unrhyw adeilad yn y wlad yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn. Bellach gall dros 23,200 ei ddefnyddio.”

Meddai Alwen Williams, cyfarwyddwr rhanbarthol BT ar gyfer BT Cymru Wales: “Mae cysylltedd cyflymder uchel yn cael effaith enfawr ar y ffordd yr ydym yn gweithio, byw, dysgu a chwarae.”

“Mae ein peirianwyr Openreach yn parhau i weithio’n galed i gael band eang cyflym iawn ar draws Ceredigion a Chymru, ac mae’n wych gweld cwmni fel Hiut Denim Co yn manteisio ar hyn.

“Hoffwn annog teuluoedd a busnesau i ddilyn esiampl Hiut Denim Co a manteisio i’r eithaf ar y dechnoleg newydd hon sy’n cael ei chyflwyno drwy uwchraddio eu gwasanaethau.”

Mae Hiut Denim Co hefyd yn un o 12 busnes sydd i gael eu harddangos gan Facebook eleni fel rhan o’i gyngor i fusnesau bach. Roedd David yn rhan o sesiwn holi ac ateb ar Facebook yn Cannes ym mis Mehefin eleni.

Mae Cyflymu Cymru yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth Prydain a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gan ddod â band eang cyflymach i ardaloedd na fyddai yn ei dderbyn fel arall.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal cynllun Allwedd Band Eang Cymru, allai roi cymorth i’r rhai hynny nad ydynt yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn, drwy gynnig cymorth grant i helpu iddynt ei dderbyn drwy dechnolegau eraill.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar https://beta.llyw.cymru/cyflymu