04
August
2013
|
23:00
Europe/London

Dathlu pen-blwydd cyntaf cyflymu Cymru wrth dargedu gwasanaethu 100,000 cartref a busnes

Uwchraddio 63 cymuned arall erbyn diwedd gwanwyn 2014 

Mae rhaglen Cyflymu Cymru wedi dathlu ei phen-blwydd cyntaf wrth gyhoeddi bod disgwyl bydd dros 100,000 cartref a busnes yng Nghymru yn gallu derbyn band llydan ffeibr uwchgyflym yn dilyn gwaith uniongyrchol y project erbyn diwedd y flwyddyn. 

Erbyn hyn mae 57 tref a chymuned wledig wedi derbyn gwasanaeth ffeibr, neu yn y broses o gael eu huwchraddio fel rhan o’r rhaglen. 

Rhagwelir bydd 63 cymuned arall yn derbyn y gwasanaeth erbyn diwedd gwanwyn 2014, gan gynyddu nifer yr adeiladau fydd yn gallu defnyddio’r dechnoleg i oddeutu 230,000 (nodiadau Golygyddion yn enwi’r cymunedau). Bydd gwaith ar y gweill ym mhob un o 22 awdurdod unedol Cymru erbyn dechrau gwanwyn 2015. 

Lansiwyd project uchelgeisiol Llywodraeth Cymru a BT, y bartneriaeth fwyaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig, ym mis Gorffennaf y llynedd. Bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o ddarparu band llydan ffeibr ar gyfer 96% o gartrefi a busnesau’r wlad erbyn diwedd gwanwyn 2016. 

Fel rhan o’r cytundeb, addawodd BT i greu 100 prentisiaeth newydd a chynnig wythnos o brofiad gwaith i 900 person ifanc dros oes y project. Hyd yma, penodwyd 58 prentis newydd a darparwyd dros 400 wythnos o brofiad gwaith i bobl ifanc ar hyd a lled y wlad. 

Dywedod Ken Skates, Dirprwy Weinidog Sgiliau & Technoleg: “Nid oes modd gorbwysleisio pa mor bwysig yw darparu gwasanaethau band llydan cyflym a dibynadwy ar gyfer busnesu’n benodol er mwyn eu helpu i wella cynhyrchiant a chefnogi eu hadnoddau. 

“Ers lansio Cyflymu Cymru, gwnaed llwyth o waith cynllunio a pheirianneg er mwyn cysylltu cartrefi a busnesau. Mae’n amlwg bod llawer o waith pellach o’n blaenau cyn i ni gyrraedd targed 2016, ond rwy’n falch o glywed bod cwmnïau eisoes yn adrodd cysylltiadau cyfathrebu gwell. 

“Yn ogystal, mae’n bleser nodi bod BT ar y ffordd i wireddu ei addewid i greu 100 prentisiaeth newydd a darparu profiad gwaith ar gyfer 900 person ifanc. Mae’n newyddion gwych i bobl ifanc drwy’r wlad wrth gynnig profiad o ddiwydiant telathrebu sy’n ehangu’n gyflym.” 

Bydd peirianwyr Openreach, busnes rhwydwaith lleol BT, wedi gosod oddeutu 17,500 cilomedr o geblau ffeibr optig a thua 3,000 cabinet stryd newydd ar draws y wlad erbyn diwedd y project. 
Ychwanegodd Liv Garfield, prif weithredwraig Openreach: “Mae’n daith gyffrous i Gymru ac rydym yn gweithio’n galed i uwchraddio cyflymderau band llydan y wlad. 

“Mae’r project eisoes wedi cysylltu busnesau mewn ardaloedd gwledig ynghyd â chymunedau trefol gan eu helpu i gystadlu â chwmnïau unrhyw le yn y byd, a darparu cyfleoedd i deuluoedd brofi gwasanaethau ac adnoddau fydd yn cyfoethogi eu bywydau. 

“Gyda phroject mor gymhleth roedd rhaid gwneud gwaith cynllunio manwl, ond rydym wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru ac erbyn hyn mae’r holl ymdrechion yn dechrau dwyn ffrwyth.” 

Ym mis Chwefror, Bangor oedd y gymuned gyntaf i dderbyn gwasanaeth fel rhan o broject Cyflymu Cymru ac ers hynny mae cymunedau eraill yn y gogledd orllewin, yn cynnwys Caernarfon, Porthaethwy, Porthmadog & Pwllheli wedi dilyn, gyda mwy i ymuno â nhw yn y rhanbarth a rhannau eraill o’r wlad yn y dyfodol agos. 

Roedd busnes Cwmni Da yn y gogledd wedi bachu ar fand llydan ffeibr yn syth ac yn awr mae’n profi’r buddion. Derbyniodd y cwmni cynhyrchu teledu yng Nghaernarfon y gwasanaeth ym mis Mai a dywedodd yr uwch ddylunydd Iestyn Lloyd: “Mae wedi trawsnewid ein busnes a’n gwaith cynhyrchu wedi elwa o’r herwydd. 

“Yn y gorffennol, byddai’n rhaid teithio i swyddfeydd eraill yn aml i lwytho ffeiliau mawr, gan effeithio amserlenni gwaith y cwmni. Ond erbyn hyn rydym yn gallu llwytho ffeiliau ar gyflymder hyd at 60Mbps ac yn anfon deunydd yn llawer cyflymach hefyd - mor gyflym, yn wir, nid oes unrhyw ymyrraeth â’n gwaith. Ni fyddwn yn gwastraffu amser ac mae’r cwmni yn gallu cynnig gwasanaeth gwell i’n cwsmeriaid.” 

Mae band llydan ffeibr yn darparu gwasanaeth llawer cyflymach ar gyfer y cymunedau hyn nag oedd yn bosibl yn y gorffennol, gyda band llydan uwchgyflym yn cynnig cyflymder hyd yn oed uwch os bydd busnesau angen hynny. 

Bydd rhwydwaith cyflym Openreach yn agored ar delerau cyfanwerthu cyfartal i bob cwmni sy’n darparu gwasanaethau band llydan ar gyfer cartrefi a busnesau. 
Manylion pellach am y rhaglen, yn cynnwys yr ardaloedd fydd yn elwa o’r project, ar wefan Cyflymu Cymru www.superfast-cymru.com. 

DIWEDD 

Ymholiadau am y datganiad i James Walsh-Heron, swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru ar 029 2089 8564 
neu swyddfa’r wasg BT Cymru 0800 085 0660 (chris.orum@bt.com). 
Copi o bob datganiad newyddion BT yn http://www.btplc.com/News. 


Golygyddion 
Ar y cyd â rhaglen fasnachol BT, rhagwelir bydd 860,000 cartref a busnes yng Nghymru yn gallu derbyn band llydan ffeibr erbyn diwedd Mehefin 2014. 

Cymunedau wedi’u huwchraddio neu fydd yn derbyn y gwasanaeth erbyn diwedd y flwyddyn 
Abercynon, Aberdyfi, Abersoch, Abertyleri, Amlwch, Bangor, Abermaw, Bedlinog, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Blaina, Brynmawr, Brynsiencyn, Caernarfon, Bae Cemaes, Chwilog, Clydach, Clynnog fawr, Corwen, Cricieth, Cwm, Dinas Mawddwy, Dolgellau, Dyffryn, Glyn Ebwy, Fairbourne, Glynrhedynog (Ferndale), Gaerwen, Garn Dolbenmaen, Gwalchmai, Harlech, Hirwaun, Treffynnon, Llanbedrog, Llanberis, Llandderfel, Llangefni, Llanwnda, Maentwrog, Porthaethwy, Aberpennar, Nefyn, Cwm Ogwr, Pennal, Penrhyndeudraeth, Pentraeth, Pentyrch, Penygroes, Y Felinheli, Porth, Porthmadog, Pwllheli, Rhiwderyn, Sealand, Tredegar, Tywyn, Waunfawr. 

Cymunedau ar y rhaglen i’w huwchraddio erbyn diwedd gwanwyn 2014 
Abergynolwyn, Aberystwyth, Bala, Biwmares, Beddgelert, Llandeilo Ferwallt (Bishopston), Bodorgan, Tresimwn (Bonvilston), Botwnnog, Caergwrle, Corris, Y Bontfaen, Dinas Powys, Ffestiniog, Fflint, Gŵyr, Tregŵyr, Hwlffordd, Caergybi, Tre Ioan (Johnstown), Llanbedr, Llannerchymedd, Llanfaethlu, Llangoed, Llanuwchllyn, Llithfaen, Llanwern, Machynlleth, Maesteg, Mayals (Abertawe), Merthyr Tudful, Aberdaugleddau, Moelfre, Yr Wyddgrug, Trefynwy, Mostyn, Niwbwrch, Neyland, Llaneurgain (Northop), Penfro, Penclawdd, Pen-hŵ, Penmaen, Llanbedr-y-fro (Peterstone-super-Ely), Pontybodkin, Rhiw, Y Rhws, Rhosneigr, Rhydymain, Southerndown, Sain Tathan, Sili, Tonyrefail, Trawsfynydd, Bae Trearddur, Trefforest, Treharris,Treorci, Tyn-y-Gongl, Valley, Y Wig, Ynysowen, Ynysybwl. 

Darperir band llydan ffeibr uwchgyflym mewn dwy ffordd o’r gyfnewidfa, sef ffeibr i’r cabinet (FTTC) a ffeibr i’r adeilad (FTTP). FTTC yn defnyddio ceblau ffeibr optig ar hyd y rhwydwaith i’r cabinet yn y stryd, yna gwifrau copr i gysylltu cartrefi a busnesau. Bydd Cyflymu Cymru yn sicrhau bydd y mwyafrif o gartrefi a busnesau’n gallu cael gwasanaeth band llydan ar gyflymder dros 30Mbps erbyn 2016. Mae hynny’n unol â pholisi’r Undeb Ewropeaidd o ddarparu band llydan uwchgyflym yn gyffredinol ar draws y cyfandir erbyn 2020. Bydd y rhaglen hon hefyd yn cynnig cyflymder dros 100Mbps mewn nifer sylweddol o ardaloedd Cymru. 

Gwybodaeth bellach am fand llydan yr oes nesaf yn www.bt.com/ngb 

Am Llywodraeth Cymru & Cyflymu Cymru 
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae’n gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud y wlad yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo. 
Mae Llywodraeth Cymru a BT yn cydweithio mewn partneriaeth ar raglen 'Cyflymu Cymru' er mwyn datblygu rhwydwaith band llydan uwchgyflym ar draws y wlad. 
Bydd Cyflymu Cymru yn adeiladu ar raglenni masnachol er mwyn darparu band llydan ffeibr cyflym ar gyfer 96% o gartrefi a busnesau’r wlad erbyn 2016. 
Nod Cyflymu Cymru yw trawsnewid rhwydwaith band llydan y wlad a hyrwyddo tyfiant economaidd a swyddi cynaladwy. Amcangyfrifwyd y gellid creu hyd at 2,500 o swyddi llawn amser ychwanegol o fewn economi’r wlad dros amser. Bydd yn rhoi Cymru mewn safle blaenllaw o fewn economi digidol y byd ac yn helpu i hyrwyddo’r wlad fel lle gwych i fyw, gweithio, buddsoddi ac ymweld.