02
June
2017
|
12:41
Europe/London

EE yn cynnig gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg cyntaf a gwella rhwydwaith 4G y brifddinas

Summary
EE, cwmni symudol mwyaf y Deyrnas Unedig a rhan o Grŵp BT, yn awr yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg drwy ei ganolfan alwadau a siopau yng Nghymru
  • EE yw'r gweithredwr rhwydwaith ffôn symudol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg

  • EE hefyd yn darparu’r safle symudol mwyaf pwerus yn y DU yng Nghaerdydd cyn rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA
  • Gwasanaeth 4G daearyddol EE yng Nghymru i fwy na dyblu o 40% ar ddechrau 2016 i 90% erbyn diwedd of 2017

EE, cwmni symudol mwyaf y Deyrnas Unedig a rhan o Grŵp BT, yn awr yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg drwy ei ganolfan alwadau a siopau yng Nghymru. Mae dros 562,000* siaradwr Cymraeg yn y wlad - oddeutu un o bob pump person - gyda menter EE yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i gymell pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn feunyddiol.

Bydd cwsmeriaid yn gallu gofyn am alwad gan dîm gwasanaeth Cymraeg EE wrth anfon neges destun neu arlein yn EE.co.uk. Yn ei siopau, bydd cwsmeriaid yn gweld pa aelodau staff sy’n siarad Cymraeg wrth nodi eu bathodyn enw gyda baner Cymru.

Yn ogystal mae EE yn addasu ei siopau a chanolfannau cyswllt i gynnwys arwyddion dwyieithog Cymraeg/Saesneg parhaol ac yn edrych i gynyddu nifer y staff sy’n siarad Cymraeg mewn 29 o’i siopau ar draws y wlad.

Adeiladu rhwydwaith symudol gorau Cymru

Ochr yn ochr â lansio’r gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg, mae EE hefyd yn cynyddu cyflymder a darpariaeth ei rwydwaith symudol yng Nghymru. Ar ddechrau 2016, roedd rhwydwaith 4G EE yn gwasanaethu 40% o’r wlad, ond wrth uwchraddio cannoedd o safleoedd 2G a 3G i 4G bob mis, yn ogystal ag adeiladu 40 safle newydd, bydd yn codi i 90% erbyn diwedd 2017.

Ar ben hynny mae EE wedi treblu darpariaeth symudol canol Caerdydd cyn ffeinal Cynghrair Pencampwyr UEFA er sicrhau bydd cwsmeriaid EE yn gallu cadw mewn cysylltiad dros benwythnos prysuraf y brifddinas, pan ragwelir dros 250,000 o ymwelwyr. Wrth gydweithio’n agos â Chyngor Dinas Caerdydd, mae EE a BT wedi adeiladu safle symudol mwyaf pwerus y Deyrnas Unedig yn Stadium House, Stryd y Parc. Safle newydd EE yw’r cyntaf i ddefnyddio adnoddau Ethernet 10 Gigabit BT, a ddyfeisiwyd mewn ymateb i’r galw cynyddol am gysylltiadau symudol yng nghanol dinasoedd.

Dywedodd prif weithredwr EE, Marc Allera: “Rydym yn gweithio i ddarparu’r gwasanaeth cwsmeriaid a rhwydwaith 4G gorau ar gyfer ein cwsmeriaid yng Nghymru. Dyna’r rheswm am uwchraddio ein rhwydwaith 4G ar draws y wlad a’r penderfyniad i fod y cwmni symudol cyntaf i gynnig opsiwn i siarad gyda ni yn Gymraeg, boed wrth ofyn am alwad gan ein tîm ardderchog ym Merthyr neu ymweld â’n siopau ar draws y wlad”.

Mae canolfan gyswllt EE ym Merthyr wedi ennill sawl gwobr am ei gwasanaeth ac wedi bod yn rhan o’r gymuned am 17 blynedd, gan gyflogi bron 1,000 aelod staff ac oddeutu 50 prentis. Mae’r ganolfan yn cefnogi elusennau Canolfan Canser Felindre a Hope Rescue.

Bydd opsiynau gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg EE yn fyw o heddiw ymlaen.

Manylion pellach yn: http://ee.co.uk/help/contact-us/welsh-language-service