22
September
2015
|
18:26
Europe/London

Gweledigaeth Prif Weithredwr BT ar gyfer dyfodol digidol Cymru

Summary
BT “byth yn dweud na” i ddarparu band llydan cyflymach ar gyfer cymunedau gwledig

BT “byth yn dweud na” i ddarparu band llydan cyflymach ar gyfer cymunedau gwledig

  • Nod yw isafswm cyflymder band llydan cyffredinol o 5-10 Megabits yr eiliad (Mbps) ar gyfer pob cartref a busnes, yn amodol ar gefnogaeth reoleiddiol
  • Mwyafrif helaeth i gael cyflymder llawer uwch - cynllun i ymestyn band llydan ffeibr tu hwnt i darged Llywodraeth San Steffan o wasanaethu 95% o adeiladau
  • Uwchgyflym - tra-chyflym: 10m cartref a busnes yn y DU i dderbyn band llydan tra-chyflym ar gyflymder o 300-500Mbps erbyn diwedd 2020. Hefyd am ddarparu gwasanaeth 1Gbps
  • “Byth yn dweud na” – BT i adeiladu ar ei brofiad o gyd-ariannu 90 cynllun band llydan cymunedol
  • Openreach i gynyddu nifer y gosodiadau cwsmeriaid prydlon tu hwnt i lefelau Ofcom mewn Siarter newydd
  • Nod gwasanaeth newydd “Cysylltu â’r peiriannydd” Openreach yw gwella profiadau cwsmeriaid wrth anfon negeseuon testun gyda’r newyddion diweddaraf a darparu rhif      ffôn symudol y peiriannydd
  • Adroddiad newydd yn asesu cyfraniad rhaglen BT at economi’r Deyrnas Unedig yn werth £20 - £30bn

Heddiw, datgelodd prif weithredwr BT Gavin Patterson gynigion i roi hwb mawr i gyflymder band llydan yng Nghymru.

Wrth annerch cynhadledd BT Delivering Britain’s Digital Future yn Llundain, cyhoeddodd Patterson addewidion i fynd ymhellach er:

taclo cyflymderau araf mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd;

cyfnyddu cyflymderau’n gyffredinol, gan ddechrau cyflwyno gwasanaethau tra-chyflym y flwyddyn nesaf;

gwella gwasanaeth cwsmeriaid, drwy gyfrwng nifer o ymrwymiadau gan Openreach.

Dywedodd Patterson: “Dros y pum mlynedd diwethaf, y Deyrnas Unedig oedd yr economi digidol mwyaf o blith y gwledydd G20, ar sail canran o GDP. Yn ein barn ni, gallai’r wlad fwynhau dyfodol hyd yn oed mwy llewyrchus o gymryd y penderfyniadau iawn yn awr. Rydym am greu dyfodol tra-chyflym ar gyfer y Deyrnas Unedig ac yn barod i helpu’r llywodraeth i alluogi pob cartref a busnes i fwynhau gwasanaethau rhyngrwyd modern, megis ffrydio teledu HD a gwasanaethau cwmwl. Er mwyn cyflawni hynny, bydd angen cydweithio rhwng diwydiant a’r llywodraeth.”

Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwraig Cymru BT: “Bydd y cynigion hyn yn cael effaith fawr ar ffyniant Cymru yn y dyfodol. Mae BT eisoes yn arwain wrth ddarparu cysylltiad i fand llydan cyflym i bron 1.2 miliwn cartref a busnes yng Nghymru - gydag oddeutu 130 yn ymuno â nhw bob awr.

“Yn awr, rydym yn paratoi ar gyfer chwyldro band llydan tra-chyflym er sicrhau bydd hyd yn oed pobl yn y llefydd mwyaf diarffordd yn gallu cael band llydan sy’n darparu gwasanaethau datblygedig, megis fideo HD. Mewn byd hynod gystadleuol, bydd y buddsoddiad yma’n hwb hanfodol i Gymru. Nid oes unrhyw gwmni yn gwneud mwy na BT iddarparu rhwydwaith cyfathrebu o safon fyd-eang yng Nghymru.”

Mae 90% o adeiladau’r Deyrnas Unedig eisoes yn gallu cael band llydan ffeibr, gan roi’r wlad mewn sefyllfa well na gwledydd mwyaf yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Ofcom.

Isafswm Cyflymder Cyffredinol

Addawodd Patterson byddai BT yn helpu Llywodraeth San Steffan i ddarparu isafswm cyflymder cyffredinol newydd o 5-10Mbps, sef digon i alluogi pawb yn y Deyrnas Unedig i fwynhau gwasanaethau rhyngrwyd poblogaidd fel fideo HD.

Pwysleisiodd Patterson yr angen am amgylchedd polisi rheoleiddiol a llywodraethol cefnogol er mwyn hwyluso buddsoddiad masnachol dichonadwy. Yn ogystal, trafododd y technolegau newydd mae BT yn datblygu yn labordai ymchwil Adastral Park, a ddylai helpu i gynyddu cyflymder gwasanaethau mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd. Mae ymchwil BT yn cynnwys profion ar dechnolegau newydd fel “wi-fi i’r cabinet” a “VDSL estyniad hirach” er mwyn lledu band llydan cyflym i gymunedau diarffordd.

Ar ben hynny, addawodd Patterson byddai’r cwmni yn cyflwyno gwasanaethau band llydan lloeren ar gyfer rhai o ardaloedd mwyaf diarffordd y Deyrnas Unedig erbyn diwedd y flwyddyn.

Lledu band llydan ffeibr tu hwnt i’r cynllun cyfredol o wasanaethu 95% o adeiladau’r Deyrnas Unedig

Cyhoeddodd Patterson bod BT yn dymuno mynd “ymhellach a chyflymach” gyda band llydan ffeibr.

Esboniodd byddai BT “byth yn dweud na” i ddarparu band llydan cyflymach ar gyfer cymunedau gwledig, gan addo byddai’r cwmni yn ymchwilio atebion cyllid a thechnolegol arloesol. Dywedodd bod 90 cymuned yn y Deyrnas Unedig eisoes wedi elwa o hynny.

Dywedodd prif weithredwr BT byddai’r Deyrnas Unedig yn mynd tu hwnt i darged presennol y llywodraeth o ddarparu ffeibr ar gyfer 95% o’r wlad, ar ôl cytuno cymalau “buddran llwyddiant” mewn contractau gwasanaeth wedi’u cyllido ar y cyd gan BT, Whitehall a chynghorau lleol.

Mae’r cymalau’n golygu bod rhaid i BT ailfuddsoddi neu ddychwelyd arian os bydd defnydd o’r gwasanaeth yn uwch na lefelau penodol mewn ardaloedd ble defnyddiwyd arian cyhoeddus. Rhyddhawyd swm o £130m eisoes ac mae potensial i’w ddefnyddio er mwyn lledu ffeibr i 96% o adeiladau. Bydd cyfran uwch o adeiladau’n gallu cael band llydan ffeibr nag yn gallu cysylltu â’r rhwydwaith nwy.

Yn ogystal, cyhoeddodd gynlluniau i ddarparu band llydan ffeibr ar gyfer pob datblygiad tai newydd, un ai gan BT ei hun neu wrth gydweithio â’r datblygwyr.

Uwchgyflym - tra-chyflym, gan gyrraedd 10m adeilad yn y DU erbyn diwedd 2020

Pwysleisiodd Patterson y buddion i gartrefi a busnesau bach o ddefnyddio technolegau tra-chyflym. Darperir y gwasanaethau hyn ochr yn ochr â gwasanaethau band llydan “Ethernet” sydd eisoes yn cynnig cyflymderau tra-chyflym i fusnesau a chyrff mawr sy’n gall talu am linellau penodol eu hunain.

Ychwanegodd Patterson at ei ddatganiad ar fand llydan tra-chyflym ym mis Ionawr wrth ddweud byddai gwasanaethau newydd 300-500Mbps BT yn cyrraedd 10m cartref a busnes yn y DU erbyn diwedd 2020, a’r mwyafrif helaeth o fewn degawd. Darperir gwasanaeth 1Gbps ar gyfer cwsmeriaid fydd angen cysylltiad hyd yn oed cyflymach. Bydd y cysylltiadau’n gyfuniad o dechnoleg FTTP (ffeibr i’r adeilad) a’r dechnoleg G.fast newydd, sy’n defnyddio technoleg FTTC (ffeibr i’r cabinet).

Gwella gwasanaethau ar gyfer pawb: siarter newydd Openreach

Dywedodd Joe Garner, prif weithredwr Openreach, bod dal angen mwy o waith i wella gwasanaeth cwsmeriaid. Pwysleisiodd ymdrechion y cwmni i wella lefelau gwasanaeth, gan berfformio’n well na 60 safon gwasanaeth Ofcom yn 2014/15, ynghyd â chyflogi 3,000 peiriannydd ychwanegol, gostwng amserau gosod cwsmeriaid, trwsio namau’n gyflymach a haneru nifer y cwynion. Aeth Garner ymlaen i ddweud mai ei nod oedd cyrraedd lefel 6% yn uwch nag isafswm safonau Ofcom yn 2017 o ran darparu cysylltiadau newydd yn brydlon.

Yn ogystal, dywedodd byddai gwasanaeth “Cysylltu â’r peiriannydd” (View My Engineer) yn gam sylweddol ymlaen. Gwasanaeth newydd fydd yn anfon negeseuon testun at gwsmeriaid gyda’r datblygiadau diweddaraf, ynghyd ag enw a rhif ffôn symudol y peiriannydd rhag ofn bydd angen cysylltu.

Wrth gloi, soniodd am fater sy’n codi oherwydd nid yw cwsmeriaid yn gallu delio’n uniongyrchol gydag Openreach, dim ond eu cwmni band llydan eu hunain. Dywedodd Garner ei fod yn fodlon ystyried cael Openreach yn trafod yn uniongyrchol gyda defnyddwyr, yn amodol ar drafod hynny gydag Ofcom a’r cwmnïau telathrebu.

Adroddiad newydd KPMG yn asesu gwerth rhaglen BT yn £20 - £30 biliwn

Yn y gynhadledd, cyhoeddwyd adroddiad newydd gan gwmni KPMG, yn dweud byddai buddsoddiad BT yn werth £20 - £30 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig dros y degawd nesaf.

-diwedd-