26
July
2016
|
15:25
Europe/London

Openreach i fod yn fwy annibynnol

Summary
Cadarnhaodd BT ei fod wedi gwirfoddoli i wneud newidiadau llywodraethol arwyddocaol er mwyn cynyddu annibyniaeth a thryloywder ei fusnes rhwydwaith lleol Openreach

Sefydlu Bwrdd Openreach i gynnwys mwyafrif o aelodau annibynnol

Openreach i fod yn fwy annibynnol a rheoli cyllidebau & penderfyniadau pwysig

Ymrwymiad i wella tryloywder ac ymgynghori â’r diwydiant

Heddiw cadarnhaodd BT ei fod wedi gwirfoddoli i wneud newidiadau llywodraethol arwyddocaol er mwyn cynyddu annibyniaeth a thryloywder ei fusnes rhwydwaith lleol Openreach. Mae’n credu bydd y newidiadau hollol newydd hyn, gydag Ofcom yn croesawu rhai o’r elfennau heddiw, yn gallu creu sylfaen ar gyfer cytundeb rheoleiddio teg, cymesur a chynaladwy. Gallant hefyd helpu Ofcom i gwblhau ei adolygiad a gwireddu ei amcanion o fewn cyfnod byrrach.

Bydd y newidiadau’n galluogi BT i ganolbwyntio ar ei gynlluniau i barhau i wella rhwydweithiau digidol y Deyrnas Unedig. Mae’r DU eisoes yn arwain economïau digidol y G20 a bydd BT yn ei helpu i gynnal y safle hwnnw wrth fuddsoddi £6 biliwn pellach yn ei rwydweithiau sefydlog a symudol dros y tair blynedd nesaf. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cododd gwariant cyfalaf Openreach dros 30% a bydd yn codi eto eleni wrth i’r busnes ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth gwell, ehangach a chyflymach.

Mae’r prif newidiadau llywodraethol yn cynnwys: sefydlu Bwrdd Openreach gyda chadeirydd annibynnol a mwyafrif o aelodau annibynnol; dirprwyo cyfrifoldebau strategol, gweithredol a chyllidebol; a phroses ymgynghori estynedig gyda’r diwydiant ar gynlluniau buddsoddi’r dyfodol.

Ym marn BT, bydd ad-drefnu Openreach yn taclo’r pryderon a fynegwyd yr wythnos ddiwethaf gan y pwyllgor dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon pan ofynnodd BT “i roi llawer mwy o annibyniaeth i Openreach o ran beth, pryd a ble bydd yn buddsoddi”. Bydd y newidiadau hefyd yn cyfarfod â holl amcanion Ofcom a amlinellwyd ym mis Chwefror er cryfhau annibyniaeth Openreach1.

  • “Llywodraethu mwy annibynnol, gyda chyfrifoldeb i wasanaethu pob cwsmer yn gyfartal”. Bydd BT yn sefydlu Bwrdd Openreach fel pwyllgor bwrdd o BT plc, prif gwmni gweithredu BT. Bydd yn cynnwys mwyafrif o aelodau annibynnol, yn cynnwys y Cadeirydd, gan eu penodi wrth ymgynghori ag Ofcom. Bydd y Bwrdd yn atebol am strategaeth a pherfformiad gweithredol Openreach. Bydd prif weithredwr Openreach yn atebol i’r Bwrdd ac yn adrodd i brif weithredwr Grŵp BT.

    Bydd dyletswydd Openreach i wasanaethu pob cwsmer yn gyfartal yn rhan o Erthyglau BT plc. Bydd hynny’n ategu cyfrifoldebau cyfreithiol y cytundebau rheoleiddio presennol ac yn cryfhau diben Openreach i wasanaethu pob cwsmer yn gyfartal.

  • “Cynyddu rheolaeth Openreach dros gyllidebau & penderfyniadau”. Openreach a’i Fwrdd yn cael rhyddid arwyddocaol i weithredu’n annibynnol. Bydd Openreach yn llunio cynlluniau gweithredu blynyddol a thymor canolig yn nodi ei amcanion cyllidebol, strategol a gweithredol. Yn ogystal, bydd Bwrdd Openreach a’r prif weithredwr yn pennu sut i ddefnyddio cyfalaf, o fewn y gyllideb gyffredinol a gytunir gyda Bwrdd BT. Mae hynny’n unol â’i gyfrifoldebau corfforaethol ehangach a’i ddyletswyddau cyffredinol fel cwmni cyhoeddus’
  • “Gwella trefn Openreach i ymgynghori â’i gwsmeriaid”. Bwriedir cyflwyno proses tri cham ffurfiol er mwyn ymgynghori ymlaen llaw â’r diwydiant ar benderfyniadau budsoddi mawr a datblygu cynnyrch newydd. Bydd y broses yn cynnwys cam cynnar pan fydd Openreach yn gallu cysylltu’n gyfrinachol â chwsmeriaid sy’n darparu gwasanaethau cyfathrebu.
  • “Cynyddu cynhwysedd gweithredol Openreach”. Openreach i feddu ar y galluoedd a’r adnoddau angenrheidiol er mwyn cymryd penderfyniadau ei hun a chynnal ei weithgareddau.

    Dywedodd Gavin Patterson, prif weithredwr Grŵp BT: “Mae’r DU eisoes yn arwain economïau digidol y G20 a bydd angen buddsoddiad pellach er mwyn cynnal y safle hwnnw. Dyna pam ein bod am fuddsoddi £6 biliwn pellach yn ein rhwydweithiau dros y tair blynedd nesaf”.

    “Rydym wedi gwrando ar Ofcom a’r diwydiant ac yn cyflwyno newidiadau sylweddol er mwyn ymateb i’r pryderon hynny. Bydd y newidiadau hyn yn gwneud Openreach yn fwy annibynnol a thryloyw nag yw heddiw, rhywbeth mae Ofcom a’r diwydiant wedi gofyn amdano.

    “Mae Openreach wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth gwell, ehangach a chyflymach a bydd y newidiadau hyn yn hwyluso hynny. Gall ein cynigion fod yn sylfaen ar gyfer cytundeb rheoleiddio teg, cymesur a chynaladwy ac yn ein barn, gallant hefyd alluogi Ofcom i gwblhau ei adolygiad o fewn cyfnod byrrach.”

    Bydd ad-drefnu Openreach fel hyn yn darparu’r holl fuddion mae Ofcom yn dymuno, ond yn osgoi’r costau ychwanegol, anghymesur o drosglwyddo asedau i is-gwmni corfforedig newydd. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bydd Openreach yn parhau i elwa o fod yn rhan o Grŵp BT ehangach, sy’n helpu i ostwng y risgiau wrth fuddsoddi mewn cynnyrch newydd.

    Bydd Openreach yn parhau’n fusnes yn destun trefn reoleiddio gadarn, gydag Ofcom yn pennu prisiau dros 90% o’i gynnyrch. Bydd Ofcom yn parhau i’w arolygu, gyda’r pwerau presennol yn cynnwys sicrhau bod Openreach yn gwasanaethu pob cwsmer yn gyfartal, gan gefnogi beth sy’n farchnad fanwerthu gystadleuol iawn. Bydd newidiadau llywodraethol BT yn ategu ac atgyfnerthu’r drefn reoleiddio honno.

    Ychwanegodd Patterson: “Rhaid bod yn gymesur wrth ategu unrhyw ateb rheoleiddiol ac yn ein barn ni, mae ein cynigion yn ymateb beiddgar ac addas i’r pryderon a fynegwyd gan Ofcom ac eraill. Rydym wedi ystyried yr opsiynau mwy eithafol a gynigiwyd gan eraill ond byddent yn or-gymhleth, yn costio gormod ac yn cymryd amser i’w gweithredu. Byddent hefyd yn tanseilio gallu Openreach i fuddsoddi ac yn creu blynyddoedd o ansicrwydd”.

    Mae BT wedi trafod ei newidadau llywodraethol yn fanwl gydag Ofcom dros sawl mis. Cysylltodd BT ag Ofcom yn ffurfiol ar 19 Gorffennaf, gan ddweud ei fod yn bwriadu cyflwyno’r newidiadau o fewn chwe mis, yn amodol ar gytundeb Ofcom i newid yr Ymgymeriadau presennol. Mae’n galw ar Ofcom i gefnog’r cynigion hyn fel y ffordd orau i’r wlad ac fel y sylfaen angenrheidiol i’r Deyrnas Unedig er cynnal cystadleuaeth a buddsoddiad yn ein rhwydweithiau digidol.