20
March
2017
|
13:02
Europe/London

Openreach yn cynnig profiadau realiti rhithwir wrth recriwtio 150 hyfforddai peirianneg

Summary
Heddiw cyhoeddodd Openreach gynlluniau i gynyddu ei weithlu peirianneg wrth recriwtio oddeutu 150 hyfforddai yng Nghymru fel rhan o’i ymgyrch i wella gwasanaethau cwsmeriaid a buddsoddi yn ei rwydwaith.
  • Ymgeiswyr i gael profiadau 3D o fywyd peiriannydd - yn cynnwys dringo polion ffôn ac archwilio siambrau tanddaearol
  • Recriwtiaid newydd i helpu i ymestyn y rhwydwaith band llydan ffeibr, gwella gwasanaeth cwsmeriaid a chynnal cysylltiadau cyfathrebu Cymru
  • Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Wrecsam, Casnewydd, Merthyr, Caergybi a Llandrindod yn rhan o’r ymgyrch recriwtio.

Heddiw cyhoeddodd Openreach gynlluniau i gynyddu ei weithlu peirianneg wrth recriwtio oddeutu 150 hyfforddai yng Nghymru fel rhan o’i ymgyrch i wella gwasanaethau cwsmeriaid a buddsoddi yn ei rwydwaith.

Bydd y busnes rhwydwaith lleol, sy’n rhan o BT Group, yn chwilio am recriwtiaid ar draws y wlad ar gyfer swyddi llawn amser a pharhaol newydd er ymestyn ei rwydwaith band llydan, gwella gwasanaeth cwsmeriaid a chynnal cysylltiadau cyfahtrebu Cymru.

Mae’n rhan o fenter ar draws y Deyrnas Unedig i gyflogi 1,500 hyfforddai peirianneg dros yr wyth mis nesaf. Nod Openreach yw recriwtio oddeutu 150 person yn ardaloedd Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Wrecsam, Casnewydd, Merthyr, Caergybi a Llandrindod.

Mewn datblygiad newydd ym maes recriwtio, bydd darpar ymgeiswyr yn gallu gweld beth yn union fydd gwaith fel peiriannydd maes yn golygu gyda chymorth realiti rhithwir. Mae’r cwmni yn profi set pen fydd yn galluogi pobl i brofi dringo polyn telegraff neu ymweld â chyfnewidfa leol mewn 3D o safbwynt peiriannydd.

Ar draws y Deyrnas Unedig, rhagwelir bydd 119 person yn ymuno â’r cwmni yn Ebrill, gyda thua 60 arall yn ymuno bob wythnos tan ganol mis Hydref. Bydd yr hyfforddeion yn dilyn rhaglen addysg 12 mis achrededig - yn cynnwys profiad gwaith ymarferol ac yn gorffen gyda chymhwyster addas ar gyfer gweithwyr technoleg gwybodaeth, meddalwedd a thelathrebu.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad dywedodd Ken Skates, ysgrifennydd economi Llywodraeth Cymru: “Mae’n newyddion gwych ac yn gyfle da i ddarpar beirianwyr ar draws y wlad i gael y sgiliau angenrheidiol er cael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant. Mae gennym enw da am helpu prentisiaid a hyfforddeion i gael swyddi ac rwy’n falch iawn gweld Openreach yn cydnabod hynny gyda’r cyhoeddiad hwn”.

Dywedodd prif weithredwr Openreach, Clive Selley: “Gwella gwasanaeth cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth, felly rydym yn buddsoddi yn ein pobl er mwyn cyflawni hynny.

“Mae ein cwsmeriaid am i ni osod llinellau newydd a thrwsio namau ar y rhwydwaith yn gyflymach nag erioed, ac wrth gynyddu nifer y bobl yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y rhwydwaith, gallwn daclo problemau hyd yn oed cyn i bobl eu sylwi.

“Yn ogystal, rydym yn parhau i ledu gwasanaethau band llydan uwchgyflym ac yn buddsoddi’n helaeth yn ein rhwydwaith er darparu band llydan tra-chyflym ar gyfer hyd at 12 miliwn cartref erbyn diwedd 2020. Ein nod yw recriwtio’r bobl orau er mwyn ein helpu ar y daith honno a bydd ein hyfforddeion peirianneg newydd yn cael y profiadau ymarferol angenrheidiol er gwneud eu gwaith ar lefel uchel.”

Esboniodd Kevin Brady, cyfarwyddwr adnoddau dynol Openreach; “Bydd pawb yn ystyried beth fydd eu sefyllfa o fewn cwmni wrth wneud cais am swydd, felly dyna’r rheswm am roi cyfle iddynt weld a phrofi’r gweithle ymlaen llaw.

“Bydd pobl o bob math o gefndiroedd yn ymgeisio am swyddi gydag Openreach, yn cynnwys nifer cynyddol o fenywod sydd am fod yn beirianwyr, sy’n ffantastig. Mae gyrfa fel peiriannydd yn gallu profi’n fuddiol iawn, er bod rhai o nodweddion y swydd yn gallu bod yn heriol yn feddyliol a chorfforol. Er enghraifft, mae dringo polyn am y tro cyntaf yn gallu profi’n anodd i rai pobl a dyna’r rheswm am roi syniad i bobl o beth yw gofynion y gwaith. Ein gobaith yw eu helpu i gymryd penderfyniad doeth wrth ymgeisio am swydd.”

Ychwanegodd Ynyr Roberts, rheolwr rhaglen rhwydwaith Openreach yng Nghymru: “O brofiad rydym yn gwybod fod Cymru yn lle gwych i recriwtio peirianwyr ymroddedig a galluog. Mae Openreach yn gallu cynnig gyrfaoedd gwerthfawr o fewn diwydiant cyffrous sy’n datblygu’n gyflym. Bydd yr hyfforddeion peirianneg yn chwarae rôl bwysig mewn llwyddiant a ffyniant y wlad. Erbyn hyn mae cysylltiadau cyfathrebu cyflym yn hanfodol i gartrefi a busnesau - a byddant yn bwysicach fyth yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae 360 fideo ar ein sianel YouTubei’w gwylio ar unrhyw PC, tablet neu set pen VR. Bydd y busnes hefyd yn eu profi gyda darpar ymgeiswyr mewn sioeau teithiol a digwyddiadau recriwtio drwy gydol y flwyddyn.

Ar ben hynny mae’r busnes yn awyddus i gynyddu amrywiaeth o fewn ei weithlu, yn cynnwys recriwtio mwy o fenywod fel peirianwyr. Yn ddiweddar, ymunodd â chwmnïau technoleg eraill i greu cynllun mentora newydd - Step into STEM - sy’n cymell merched i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Ar draws y Deyrnas Unedig, mae Openreach wedi cyflogi 5,000 peiriannydd a dros 900 o brentisiaid a graddedigion dros y pedair blynedd diwethaf.

Mwy am ein cynllun hyfforddeion peirianneg