22
September
2016
|
09:26
Europe/London

​​Openreach yn recriwtio dros 100 peiriannydd & prentis ychwanegol yng Nghymru

Summary
Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a’r gogledd yn elwa o’r ymgyrch recriwtio

Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a’r gogledd yn elwa o’r ymgyrch recriwtio


Heddiw cyhoeddodd Openreach, busnes rhwydwaith lleol BT, ei fod wedi cwblhau ymgyrch recriwtio fawr arall er mwyn gwella gwasanaeth cwsmeriaid ar draws y wlad.

Fel rhan o’r ymgyrch ddiweddaraf cyflogwyd 113 peiriannydd ac 20 prentis er mwyn helpu i osod llinellau newydd a thrwsio namau’n gyflymach.

Bydd y recriwtiaid newydd hefyd yn gweithio i ledu band llydan ffeibr i fwy o gartrefi a busnesau tu hwnt i’r 1.3 miliwn sydd eisoes yn gallu cael y dechnoleg yng Nghymru.

Cyflogwyd y recriwtiaid diweddaraf mewn trefi, dinasoedd ac ardaloedd ar draws y wlad, yn cynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.

Mae cyhoeddiad heddiw yn rhan o fenter genedlaethol ble mae Openreach wedi cyflogi 5,000 peiriannydd a dros 700 prentis ar draws y Deyrnas Unedig yn y tair blynedd ddiwethaf.

Ar ei wefan mae Openreach yn cyhoeddi data perfformiad gwasanaeth cwsmeriaid yn rheolaidd, gan ddangos sut mae’n perfformio yn erbyn amryw dargedau gwasanaeth, yn cynnwys safonau a bennir gan y rheoleiddiwr, Ofcom.

Mae wedi cyrraedd neu guro pob un o 60 safon gwasanaeth Ofcom, gyda’r canlyniadau diweddaraf yn dangos ei fod wedi trwsio 84% o namau o fewn dau ddiwrnod gwaith a gosod 93% o linellau newydd yn brydlon. Gyda’r targedau hyn yn codi bob blwyddyn, bydd y recriwtiaid newydd yn helpu’r cwmni i barhau i wella lefelau gwasanaeth.

Cymrwyd nifer sylweddol o’r swyddi gan gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog, dynion a menywod - gan gynnal perthynas hir dymor y cwmni â’r Lluoedd Arfog1.

Mae’r busnes yn awyddus i gyflogi pobl o wahanol gefndiroedd er mwyn cynnal amrywiaeth yn y gweithle, yn cynnwys recriwtio mwy o fenywod fel peirianwyr. Yn ddiweddar ymunodd â dau gwmni technoleg arall i greu cynllun mentora newydd - Step into STEM - sy’n cymell merched ysgol i ddilyn gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Dywedodd Clive Selley, prif weithredwr Openreach: “Fy mlaenoriaeth yw gwella ein gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid a bydd y recriwtiaid newydd hyn yn ein helpu i gysylltu mwy o bobl yn brydlon a thrwsio namau’n gyflymach.

“Mae Openreach eisoes yn cyflwyno band llydan ffeibr uwchgyflym ac yn helpu’r Llywodraeth i gyrraedd ei nod o gyrraedd 95% o gartrefi a busnesau’r Deyrnas Unedig erbyn diwedd 2017. Ac wrth edrych ymlaen tu hwnt i wasanaethau uwchgyflym, bydd llawer o’r peirianwyr hyn hefyd yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau tra-chyflym mewn hyd at 12 miliwn cartref erbyn diwedd 2020.

“Rydym yn buddsoddi’n helaeth er mwyn adeiladu a chynnal ein rhwydwaith, ond yn cydnabod bod dal llawer o waith i wneud ac rydym am ddenu’r bobl orau er mwyn ein helpu ar y daith honno.”

Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwraig Cymru BT: “Mae’r ymgyrch recriwtio ddiweddaraf hon yn cynrychioli buddsoddiad mawr arall gan BT yng Nghymru fel cyflogwr blaenllaw a darparwr gwasanaethau hanfodol.

“Yn awr mae’r recriwtiaid newydd yn dechrau gyrfaoedd cyffrous mewn diwydiant sy’n newid yn gyflym, gan wneud cyfraniad pwysig at ffyniant Cymru yn y dyfodol. Maent eisoes yn gweithio’n galed i sicrhau bod cartrefi a busnesau’n cael y gwasanaeth gorau posibl, dim ots os ydynt wedi archebu’r dechnoleg ddiweddaraf fel band llydan ffeibr uwchgyflym, neu hysbysu nam.

“Wrth ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf, rydym wedi recriwtio pobl sy’n gallu cysylltu â’n cwsmeriaid a darparu profiadau da byddant yn cofio. O’u rhan nhw, bydd ein gweithwyr yn cael cyfle i ddatblygu gyrfaoedd ffantastig mewn cwmni sy’n arwain y gwaith i ddarparu’r technolegau cyfathrebu diweddaraf ar draws y Deyrnas Unedig.”