17
July
2017
|
10:06
Europe/London

Twf ar droed i wneuthurwr sanau o Rydaman, diolch i Cyflymu Cymru

Summary
​Mae band eang cyflym yn helpu cwmni sanau a dillad gwlân hir sefydledig o Rydaman i gyrraedd cwsmeriaid ym mhob cwr o’r byd yn gwbl hwylus, diolch i Cyflymu Cymru.

Mae band eang cyflym yn helpu cwmni sanau a dillad gwlân hir sefydledig o Rydaman i gyrraedd cwsmeriaid ym mhob cwr o’r byd yn gwbl hwylus, diolch i Cyflymu Cymru.

Yn ystod ymweliad â Corgi Hosiery heddiw (Dydd Llun 17 Gorffennaf), clywodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, sut mae band eang cyflym iawn wedi bod yn allweddol i helpu’r cwmni i ddatblygu ei allforion byd-eang.

Sefydlwyd y cwmni’n wreiddiol ym 1892 fel gwneuthurwr sanau i lowyr lleol ac erbyn hyn mae gan y brand Corgi enw da iawn a dyma’r dewis cyntaf am sanau moethus - mae’r Teulu Brenhinol ymysg ei gwsmeriaid.

Ers cysylltu â band eang cyflym iawn, mae busnes e-fasnach Corgi wedi prysuro’n sylweddol ac mae bellach yn allforiwr sylweddol, gyda dosbarthwyr newydd pwysig yn Ne Korea, Tsieina, Japan ac Awstralia.

Diolch i’r cysylltiad cyflym iawn, mae gwefan y cwmni www.corgisocks.com, a’i fusnes manwerthu ar y rhyngrwyd yn ffynnu. Erbyn hyn, mae Corgi yn gallu rhoi diagnosis o ddiffygion ym mheiriannau’r ffatri a’u datrys o bell, cyn gynted ag y maen nhw’n digwydd. Gall staff siarad wyneb yn wyneb â dosbarthwyr cleientiaid ar hyd a lled y byd hefyd heb orfod gadael cysur y swyddfa yn Ne Cymru.

Meddai Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Mae wedi bod yn wych gweld yr effaith gadarnhaol y mae band eang cyflym iawn wedi’i chael ar gwmni Corgi.

“Mae Cyflymu Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn wrth ddarparu seilwaith band eang cyflym iawn ar hyd a lled Cymru, gan alluogi busnesau sy’n dewis defnyddio’r dechnoleg i ddarparu gwasanaeth o ansawdd gwell a llwyddo mewn marchnad fyd-eang. Mae Corgi yn enghraifft wych o hyn.

“Erbyn hyn mae band eang cyflym iawn ar gael i 645,000 a mwy o safleoedd ledled Cymru diolch i’r rhaglen, a bydd llawer mwy yn cael eu hychwanegu cyn diwedd y flwyddyn. Diolch i Cyflymu Cymru, mae gan Gymru’r ddarpariaeth band eang cyflym iawn orau ymysg y cenhedloedd datganoledig - mae gan dros wyth o bob deg o safleoedd fynediad ato.”

Yn ôl Chris Jones, cyd-reolwr gyfarwyddwr Corgi: “Cyn gynted ag y cafodd y rhaglen band eang ffeibr ei chyflwyno o fewn cyrraedd i’n safle ni, penderfynwyd cofrestru ac roedd yn benderfyniad da iawn.

“Mae cael mynediad at well cysylltiadau yn helpu ein cwmni i dyfu ac yn gwella ein heffeithlonrwydd. Roeddem wedi nodi’r potensial ar gyfer cynyddu masnach mewn marchnadoedd byd eang drwy ein busnes e-fasnach. Ond roedden ni’n gwybod ein bod angen cysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy er mwyn denu cleientiaid newydd rhyngwladol, rhyngweithio â nhw a’u cynorthwyo, gan roi’r gwasanaeth a’r gofal cwsmeriaid o’r safon uchaf iddyn nhw.

“Mae band eang ffeibr wedi helpu i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n cynnal ein busnes ac rydyn ni’n llawer mwy effeithlon nawr. Mae ein harchebion, ein hanfonebau, ein cyfrifon a’n system rheoli stoc ar gael bob amser, fel y gall ein staff gael mynediad at yr hyn maen nhw ei angen pryd bynnag y maen nhw ei angen.”

Yn ôl Ed Hunt, cyfarwyddwr rhaglen Cyflymu Cymru ar gyfer Openreach: “Mae cysylltiad cyflym iawn yn cael effaith anferthol ar y ffordd rydyn ni’n gweithio, byw, dysgu a chwarae.”

“Mae peirianwyr o Openreach, y busnes rhwydwaith lleol sy’n rhan o BT Group, yn gweithio’n galed er mwyn cyflwyno band eang cyflym iawn i bawb ledled Sir Gaerfyrddin a Chymru cyn gynted â phosibl, ac mae’n wych gweld cwmni fel Corgi yn manteisio ar y dechnoleg newydd ac yn elwa ar hynny.

“Gall miloedd o gartrefi a busnesau yng Nghaerfyrddin wneud yr un fath â Corgi a chysylltu â’u band eang cyflymaf erioed pan fyddan nhw’n cofrestru â darparwr gwasanaethau, a byddem yn annog pobl leol i ymchwilio i’w dewisiadau.

“Mae’n farchnad gystadleuol iawn, felly gallai pobl bori ar gyflymderau llawer uwch am gost debyg i’w gwasanaeth cyfredol. Unwaith rydych chi wedi newid i wasanaeth cyflym iawn, fel y tîm yn Corgi, rydyn ni’n hyderus na fyddwch chi byth yn edifarhau.”

Cyflymu Cymru yw’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sy’n dod â band eang cyflymach i ardaloedd na fyddai’n ei dderbyn fel arall.

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal y cynllun Allwedd Band Eang Cymru hefyd, a all gynnig cymorth i’r rhai nad ydyn nhw’n gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn drwy ddarparu cymorth grant er mwyn eu helpu i’w dderbyn drwy dechnolegau eraill. Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.llyw.cymru/bandeang