23
November
2016
|
10:09
Europe/London

Abertawe ar y blaen gydag Openreach yn cyhoeddi mwy o ardaloedd prawf band llydan tra-chyflym

Summary
Bydd trigolion Abertawe ymhlith y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i elwa o dechnoleg band llydan tra-chyflym newydd yn cael ei datblygu gan Openreach, busnes rhwydwaith lleol BT.

Bydd trigolion Abertawe ymhlith y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i elwa o dechnoleg band llydan tra-chyflym newydd yn cael ei datblygu gan Openreach, busnes rhwydwaith lleol BT.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y cwmni byddai Abertawe yn un o’r ardaloedd prawf ar gyfer ei dechnoleg G.fast tra-chyflym newydd, sy’n gallu llwytho data ar gyflymder hyd at 330 megabit yr eiliad (Mbps) - dros 10 gwaith yn gyflymach na chyfartaledd y DU. Mae’n dilyn profion technegol llwyddiannus, rhai ohonynt yn ardal Abertawe.

Nod Openreach yw darparu G.fast ar gyfer 10 miliwn cartref yn y Deyrnas Unedig erbyn diwedd 2020 ac fe groesawyd y newyddion gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe a Bwrdd Rhanbarthol Dinas Abertawe.

Bydd yn cynnig y dechnoleg i filoedd o gartrefi a busnesau yn y ddinas yn ystod 2017, gyda’r manylion i ddilyn yn fuan.

Wrth groesawu cyhoeddiad heddiw, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae rhannau helaeth o’r wlad eisoes yn gallu cael band llydan uwchgyflym ac rydym yn falch iawn fod BT wedi dewis Abertawe fel un o’r lleoliadau cyntaf yn y Deyrnas Unedig i elwa o’r dechnoleg band llydan oes nesaf yma.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i greu’r cysylltiadau cyfathrebu gorau posibl, ac yn parhau i gydweithio â BT i ledu band llydan uwchgyflym i gartrefi a busnesau ar draws y wlad.

“Bydd band llydan tra-chyflym yn ein helpu i gystadlu ar farchnadoedd byd-eang, felly rydym yn croesawu’r buddsoddiad arloesol yma yn y diwydiant.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Mae’n newyddion ffantastig i Abertawe ac yn cefnogi ein gwaith i ddarparu rhwydweithiau digidol o’r radd flaenaf er mwyn helpu busnesau i dyfu a ffynnu. Bydd hefyd yn ategu ein cynlluniau i sefydlu ardal ddigidol fel rhan o gynigion arfordir rhyngwyd y ddinas”.

Dywedodd Syr Terry Matthews, Cadeirydd Rhanbarth Dinas Bae Abertawe: “Mae’n newyddion gwych. Mae technoleg G.fast yn defnyddio gwifrau copr i ddarparu band llydan hyd at 330Mbps - gallai hynny helpu i sefydlu llawer o fusnesau newydd a darparu buddion economaidd sylweddol”.

“Mae BT wedi profi’n bartner ardderchog wrth gwblhau’r profion gwasanaeth yn gyflym iawn. Yn awr rydym yn edrych ymlaen at weld y rhanbarth cyfan yn derbyn gwasanaethau tra-chyflym cyn gynted â phosibl. Da iawn BT.”

Dywedodd Kim Mears, rheolwr gyfarwyddwr darparu rhwydweithiau Openreach: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bydd Abertawe yn un o’r lleoliadau cyntaf yn y Deyrnas Unedig i elwa o fand llydan G.fast tra-chyflym”.

“Yn awr bydd mwy o bobl yn gallu mwynhau gwasanaeth tra-chyflym fforddiadwy. Gyda chymorth llywodraethau cenedlaethol a lleol, rydym wedi llwyddo i wneud hynny o fewn cyfnod byr iawn.

“Mae’r Deyrnas Unedig eisoes yn arwain ym maes band llydan uwchgyflym. Erbyn hyn mae dros naw allan o 10 cartref a busnes yn gallu cael band llydan uwchgyflym, gydag 20,000 adeilad arall yn ymuno â nhw bob wythnos. Ac rydym yn gweithio’n galed i gyrraedd y rhai sy’n weddill, yn ogystal â chyflwyno gwasanaethau tra-chyflym.”

Yn dilyn profion technegol llwyddiannus yn Abertawe (ynghyd â Huntingdon a Cherry Hinton, swydd Caergrawnt a Gosforth, Newcastle) mae Openreach wedi cyhoeddi rhestr o 17 ardal brawf i gyrraedd oddeutu 140,000 cartref a busnes yn 2017. Mae’r cwmni eisoes wedi darparu band llydan ffeibr ar gyfer dros 1.3 miliwn cartref a busnes yng Nghymru, drwy gyfuniad o fuddsoddiad ei hun a phartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Ar draws y Deyrnas Unedig, mae mwy o gartrefi a busnesau’n defnyddio band llydan uwchgyflym nag yn yr Almaen, Ffrainc, yr Eidal neu Sbaen, a’r DU yn perfformio’n well na phum economi mwyaf Ewrop ar fesurau megis darpariaeth, cyflymder a defnydd yn ôl Ofcom[1].

Manylion pellach am G.fast yn www.openreach.co.uk/ultrafast.

[1]**Cerdyn Sgorio Band Llydan Ewrop Ofcom yn dangos y DU yn arwain pum prif economi Ewrop - Ffrainc, Almaen, Eidal, Sbaen - ar amrediad o fesurau band llydan annibynnol