31
July
2014
|
23:00
Europe/London

Angen mwy o Gymraeg arlein

Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol, heddiw (Dydd Gwener, 01 Awst) galwodd Mentrau Iaith Cymru a BT Cymru am fwy o waith er cymell a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook.

Mae’n dilyn ymchwil gan Mentrau Iaith Cymru ar ran BT Cymru a edrychodd ar ddefnydd o’r Gymraeg ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol.

Dyma brif gasgliadau’r ymchwil, a grynhodd ddata gan 400 siaradwr Cymraeg:

  • Oddeutu 25% o’r cyfranogwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd yn eu bywyd bob dydd yn defnyddio Saesneg yn unig neu fwy o Saesneg na’r Gymraeg ar safleoedd cymdeithasol
    • Dywed 95% o’r cyfranogwyr y byddent yn hoffi defnyddio mwy o Gymraeg ar safleoedd cymdeithasol
    • 65% o’r farn bod iaith y safleoedd cymdeithasol yn dylanwadu ar eu defnydd o’r Gymraeg i ryw raddau.

Wrth sylwi ar y casgliadau, dywedodd Emily Cole, Mentrau Iaith Cymru:
“Hyder sy’n bwysig o ran defnydd o’r Gymraeg.”

“Mae pobl sy’n hyderus yn y Gymraeg yn llawer mwy tebygol o ddiweddaru eu statws, sylwi ar luniau gwyliau neu drydar yn Gymraeg. Ond os nad yn hyderus, mae’n rhy hawdd i siaradwyr Cymraeg gyfathrebu’n Saesneg ar safleoedd

cymdeithasol, ac mae’n debyg bod cyfran sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn gwneud hynny.

“Yn ogystal â hyder, mae ein gwaith yn awgrymu bod ffactorau eraill yn dylanwadu ar ddefnydd o’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, rhai ohonynt yn debyg i’r rhai sy’n effeithio bywyd bob dydd ac eraill yn unigryw i’r byd digidol. Er enghraifft, adroddwyd bod gallu ieithyddol ffrindiau a dilynwyr yn ffactor dylanwadol wrth gyfrannu arlein: rydym yn byw ochr yn ochr ag un o’r ieithoedd mwyaf dylanwadol yn y byd ac, yn debyg i’n bywyd bob dydd, mae’r rhan helaeth iawn o bobl yn deall a defnyddio Saesneg.

“Ond mae ffactorau eraill sy’n unigryw i’r byd digidol. Datblygiadau technolegol - megis rhyngwyneb Cymraeg Facebook - yn gam i’r cyfeiriad iawn ac i’w groesawu. Rhaid galw ar safleoedd eraill fel Twitter, Linked-In ac Instagram i ddilyn yr un trywydd a helpu i godi proffil y Gymraeg fel iaith ddigidol.

“Mae meddalwedd gwirio sillafu a throsi i’r Gymraeg yn helpu i adeiladu hyder a gwneud y broses o gyfrannu’n Gymraeg arlein yn haws - ond mae angen mwy o’r datblygiadau hyn er mwyn hwyluso cyfathrebu digidol Cymraeg.

“Yn ddiweddar gwelwyd llawer o ddatblygiadau cyffrous gan gyrff ac unigolion i gynnal defnydd o’r Gymraeg arlein a symbylu mwy o ryngweithio, rhannu a chreu cynnwys gan siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Yn dilyn ein gwaith ymchwil mae’n glir bod angen cynnal y momentwm a chymell mwy o bobl ar draws y wlad a thu hwnt i gyfrannu’n Gymraeg fel rhan o’r byd digidol.

Dywedodd Ann Beynon, cyfarwyddwraig Cymru BT: “Mae’r ymchwil yn galonogol oherwydd mae’n awgrymu dymuniad clir gan y rhai a gymrodd ran i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg ar safleoedd cymdeithasol”.

“Rydym yn croesawu’r camau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith digidol, megis grantiau technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg, ond mae dyletswydd ar bob un ohonom - sefydliadau, cyrff ac unigolion - i weithredu i wneud defnydd o’r Gymraeg yn ‘normal’ yn ein cymunedau oddi ar ac arlein.”

“Nid ydym yn awgrymu dylai pob busnes gael gwefan ddwyieithog oherwydd byddai’n costio llawer iawn o arian. Yr her wirioneddol o’n blaenau yw symbylu cymaint o siaradwyr Cymraeg â phosibl i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol arlein. Mae BT yn croesawu cyfathrebu yn y Gymraeg ac mae’r ymchwil yn dangos bod galw am ddefnydd o’r Gymraeg ar safleoedd cymdeithasol. Dyna pam byddwn yn ymchwilio’r posibilrwydd o gynnig y sianel gyfathrebu hon i’n cwsmeriaid yn y dyfodol.”

Yn ddiweddar datblygodd BT app dwyieithog ar gyfer Ambiwlans Sant Ioan ac ar hyn o bryd mae’n gweithio i ddatblygu app Cymraeg gydag Urdd Gobaith Cymru.

Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at faes ymchwil sy’n tyfu a datblygu’n gyflym - gyda llawer o waith sy’n ystyried ieithoedd eraill a’r cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â gwaith gan brifysgolion Cymreig sy’n edrych yn benodol ar y Gymraeg. Ond bydd angen mwy o waith ymchwil manwl ar anghenion penodol Cymru a’i chyfansoddiad ieithyddol unigryw.

Ychwanegodd Emily Cole “Yn sicr bydd y gwaith yma yn helpu’r Mentrau Iaith a chyrff eraill i hyrwyddo’r Gymraeg ac rydym yn gobeithio cydweithio’n agos â BT yn y dyfodol i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y byd digidol”.

-diwedd-

Golygyddion

Am y Mentrau Iaith
• Cyrff cymunedol sy’n hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar draws y wlad
• Mae 23 Menter Iaith yng Nghymru
• Mentrau Iaith Cymru yw’r corff cenedlaethol yn cefnogi gwaith y Mentrau lleol
• Mae’r Mentrau yn cyflogi dros 300 aelod staff, yn gweithio gyda 1,300 gwirfoddolwr ac yn cynnal 13,000 gweithgaredd cymunedol ar gyfer oddeutu 160,000 cyfranogwr bob blwyddyn
• Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio mewn amryw feysydd, yn dibynnu ar anghenion a blaenoriaethau lleol, yn cynnwys datblygu economaidd, chwarae, hamdden, addysg gymunedol, mentrau cymdeithasol, canolfannau Cymraeg, cefnogi teuluoedd, dysgwyr a gwaith ieuenctid.

adroddiad y gymraeg a'r rhwydweithiau cymdeithasol 2014 - .pdf file (size 650k)