15
September
2015
|
15:06
Europe/London

Cyfarwyddwraig newydd BT Cymru yn ymrwymo i gefnogi llwyddiant economaidd

Summary
Pennaeth newydd BT Cymru, Alwen Williams, yn addo bydd y cwmni yn chwarae rôl flaenllaw mewn llwyddiant a ffyniant economaidd y wlad.

Heddiw (Mawrth 15 Medi) addawodd pennaeth newydd BT Cymru byddai’r cwmni yn chwarae rôl flaenllaw mewn llwyddiant a ffyniant economaidd y wlad.

Dywedodd Alwen Williams, 38 oed, gallai buddsoddiad gwerth sawl £miliwn BT mewn technolegau newydd fel band llydan uwchgyflym arwain at “chwyldro cyfathrebu” yng Nghymru.

Ychwanegodd cyn-ddisgybl Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, a fagwyd ar fferm y teulu ger Gwytherin: “Rydym eisoes wedi cyflawni llwyth o waith ar draws y wlad. Erbyn hyn mae band llydan cyflym ar gael i oddeutu wyth allan o 10 cartref a busnes Cymreig, a’r nifer yn cynyddu’n gyflym - ond mae dal llawer i wneud.

“Fel un o gyflogwyr a buddsoddwyr mwyaf sector preifat Cymru, mae BT wedi ymrwymo i ddarparu band llydan uwchgyflym cyn gynted â phosibl wrth fuddsoddi miliynau o bunnoedd yn ei raglen ei hun ac wrth gydweithio gyda phartneriaid sector cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru.

“Mae technolegau uwchgyflym eisoes yn darparu buddion mawr ar gyfer busnesau a chartrefi Cymru, gyda thechnolegau hyd yn oed mwy cyffrous ar y gweill, megis ein prawf o dechnoleg ‘tra-chyflym’ yn Abertawe, sy’n gallu cynnig gwasanaeth llawer cyflymach na band llydan uwchgyflym.

“Mae hi’n gyfnod cyffrous, ond i rai graddau dyma ddechrau’r daith yn unig. Rwy’n benderfynol o sicrhau bydd Cymru yn elwa’n llawn o adnoddau, arloesedd a buddsoddiad BT, un o’r cwmnïau cyfathrebu mwyaf blaenllaw yn y byd.”

Fel cyfarwyddwraig Cymru BT, bydd Alwen yn gyfrifol am oruchwylio busnes sy’n cyflogi bron 3,000 yng Nghymru, gan weithio’n agos gyda phob rhan o’r corff ac arwain Bwrdd BT Cymru. Tan yn ddiweddar roedd yn arwain gwaith cysylltu a chyfathrebu’r cwmni fel rhan o raglen trawsnewid adnoddau dynol BT yn y Deyrnas Unedig a 71 gwlad ar draws y byd.

Dywedodd Alwen: “Mae swydd cyfarwyddwraig Cymru BT yn andros o gyfle i mi.”

“Rwyf wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio i’r cwmni, yn bennaf tu allan i Gymru. Ond dyma ble mae fy nghalon, felly mae’n wych ‘dŵad adre’ ar gyfnod mor gyffrous.

“Mae BT yn elfen allweddol o Gymru. Rydym yn darparu gwasanaethau a buddsoddiad hanfodol ar gyfer pob cymuned, dim ots pa faint, gan wario bron £200m bob blwyddyn gyda chyflenwyr lleol a chefnogi gwaith miloedd o bobl ac, wrth gwrs, yn un o brif gefnogwyr rygbi rhanbarthol Cymru.

“Beth sy’n glir i mi yw hyn. Mewn un ffordd neu’i gilydd bydd canran uchel o boblogaeth Cymru yn dod i gysylltiad â BT. Rwyf am sicrhau byddant yn cael argraff bositif o’r cwmni - dim ots pa fath o gysylltiad fydd hynny - ac y byddwn yn parhau i fod yn rhan integrol o’r chwyldro digidol ar draws y wlad.”

Ymunodd Alwen â BT yn 1996 fel aelod o’r Biwro Cymraeg ym Mae Colwyn. Yna treuliodd dros 10 blynedd yng Nghaerdydd - gan ddechrau fel aelod o dîm cyfathrebu corfforaethol BT Cymru ac yna datblygu ei gyrfa ym meysydd rheoli cyfathrebu a newid.

Tra’n gweithio gyda BT, graddiodd Alwen gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Arweinyddiaeth a Rheoli gyda’r Brifysgol Agored yn 2014 ac ar hyn o bryd mae’n dilyn cwrs Dosbarth Meistr mewn Hyfforddi Gweithredol gydag Ashridge Business School.

Mae’n byw yn ardal Cei Connah ac yn bwriadu rhannu ei hamser yn y swydd rhwng y de a’r gogledd. Bydd yn dechrau ei swydd newydd ar ddydd Llun 21 Medi.

Wrth gyhoeddi ei phenodiad, dywedodd Brendan Dick, cyfarwyddwr BT Regions: “Mae Alwen wedi ymateb yn ffantastig i bob her mae wedi wynebu yn ei gwaith, felly rydym yn falch iawn o’i chroesawu i’r swydd allweddol hon.

“Ar ôl ymuno â BT yn syth o’r ysgol, mewn cyfnod cymharol fyr mae wedi dringo i arwain BT yng Nghymru. Mae hynny’n dyst i’w gwaith caled, penderfyniad a gallu. Ond mae hefyd yn adlewyrchu sut byddwn yn datblygu a meithrin talent o fewn BT.

“Fe wnaeth ei rhagflaenydd, Ann Beynon, waith gwych nid yn unig ar ran BT ond Cymru gyfan. Rwy’n hyderus bydd Alwen, fel Cymraes weithgar ac ymroddedig arall ym maes busnes, yn ei ffordd ei hun yn cael yr un effaith bositif.”