30
September
2016
|
10:25
Europe/London

Pobl yng Nghymru yn mynnu cydnabyddiaeth ar gyfryngau cymdeithasol

Summary
Yn ôl astudiaeth newydd gan BT, mae Cymru yn llawn o bobl sy’n edrych am gydnabyddiaeth, cael eu hoffi a rhannu sylwadau a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.

Dynion yn fwy tebygol o fod angen ymateb na menywod

Yn ôl astudiaeth newydd gan BT, mae Cymru yn llawn o bobl sy’n edrych am gydnabyddiaeth, cael eu hoffi a rhannu sylwadau a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae ffigurau a ryddhawyd i ddathlu lansiad BT Smart Hub newydd yn datgelu’r graddau mae cyfryngau cymdeithasol wedi gwneud unigolion yn fwy dibynnol yn gymdeithasol - gyda phobl yng Nghymru yn mynd ar eu cyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram tua 18 gwaith y diwrnod ar gyfartaledd ar ôl postio neges, er mwyn gweld yr ymateb.

Canlyniadau allweddol yn cynnwys:

  • Person cyfartalog yng Nghymru yn cynnal 3 cyfrif cyfryngau cymdeithasol ac yn treulio bron 2 awr yn postio a rhannu statws, lluniau a fideos
  • Llai na 31 ymateb, rhannu neu sylw ar un post yn siomedig - ar draws y Deyrnas Unedig, dynion sydd fwyaf angen cadarnhad, gan ddisgwyl 40 i hoffi post ar gyfartaledd, o gymharu â 28 yn achos menywod.
  • Person cyfartalog yng Nghymru yn cymryd tua 8 munud i greu a chyfansoddi’r post delfrydol, gyda dynion yn cymryd 10 munud ar gyfartaledd o gymharu ag 8 munud gan fenywod.
  • Ac yn cymryd 9 munud arall i gymryd y llun iawn, dewis y ffilter gorau a’i lwytho ar blatfform cymdeithasol
  • Bron 37% o bobl yng Nghymru yn dweud os na fydd rhywun yn hoffi, rhannu neu sylwi ar eu negeseuon, efallai na fyddant yn ymateb i negeseuon tebyg ganddyn nhw
  • Ar gyfartaledd dynion yn edrych am ymateb i’w negeseuon bob munud am 19 munud, o gymharu â menywod sy’n edrych unwaith bob munud am chwarter awr
  • Dros 58% o bobl yng Nghymru o’r farn bod cael eu cydnabod ar gyfryngau cymdeithasol yn “bwysig” ac o ganlyniad, 45% yn cyfaddef eu bod yn genfigennus o bobl eraill sy’n derbyn ymateb gwell i’w negeseuon, trydar a rhannu.

Dyma sylwadau ar y canlyniadau gan y seicolegydd blaenllaw Becky Spelman. “Mae “hoffi” neu “rhannu” post yn ymddangos i roi’r gydnabyddiaeth mae pobl yn edrych amdano ac yn ddiddorol nodi bod pobl yn casglu “ffrindiau” heb ystyried faint ohonynt sy’n ffrindiau gwirioneddol! Nid yw’n syndod gweld dynion yn dibynnu’n fwy helaeth ar gyfryngau cymdeithasol na menywod, am eu bod yn tueddu i gael rhwydweithiau cymdeithasol llai eang na menywod a llai o gysylltiadau emosiynol yn y byd go iawn.

“Mae ymateb yn arwynebol wrth “hoffi” post yn rhywbeth diniwed o’i hunan, ond wrth ryngweithio ar gyfryngau cymdeithasol mae angen bod yn ofalus na fydd pobl yn anghofio cysylltiadau gwirioneddol gyda ffrindiau ac aelodau’r teulu. Buaswn yn argymell cyfyngu ffrindiau ar gyfryngau cymdeithasol i bobl byddwch yn cyfathrebu gyda nhw ac yn adnabod yn iawn, yn hytrach na rhywun sy’n anfon cais i fod yn ffrind. Mae cyfryngau cymdeithasol yn gweithio fe arfau cyfathrebu nid fel ffordd o asesu ein hunanwerth.”

Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwraig Cymru BT: “Mae’n ddiddorol dysgu mwy am arferion pobl wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Erbyn hyn byddwn yn tueddu i dreulio mwy o amser arlein, gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o’n bywydau. Mae’n haws nag erioed i fynd arlein gyda dros 1.3 miliwn cartref a busnes yng Nghymru’n gallu cael band llydan ffeibr cyflym - a’r nifer yn dal i gynyddu.”

Sylwodd David McDonald, cyfarwyddwr band llydan & pecynnau BT: “Erbyn hyn mae 85% o bobl yn treulio’r rhan helaeth o’u hamser ar gyfryngau cymdeithasol yn eu cartrefi, felly mae cysylltiad dibynadwy’n bwysig. Dyna pam rydym wedi lansio BT Smart Hub newydd, sy’n darparu’r signal wi-fi mwyaf pwerus yn y DU o gymharu â’r prif gwmnïau band llydan eraill. Gyda chyfuniad o nodweddion unigryw, gallwch fynd ar blatfformau cymdeithasol gymaint ag y mynnwch, gyda wi-fi mewn mwy o lefydd, cysylltiadau dibynadwy a gwasanaeth cyflymach mewn ystafelloedd anodd eu cyrraedd.”

Wrth wynebu sefyllfa o neb yn hoffi neu rannu negeseuon, yr emosiwn gyffredinol bydd pobl yn temlo ar draws y wlad yw “siom” (38%), gyda 17% yn dweud ei fod yn arwain at deimladau o fod “heb ffrindiau”, 16% yn “ansicr” a 14% arall yn “dwp”. O ganlyniad, mae 45% wedi dileu rhywbeth o gyfryngau cymdeithasol am eu bod yn rhwystredig ar ôl methu cael ymateb positif, gyda dynion yn fwy tebygol o wneud hynny (49%).

Ar y llaw arall, o dderbyn ymateb positif ar y lefel iawn - bydd 44% ohonom yn teimlo’n “hapus”, 29% wedi’n “cydnabod”, 27% “poblogaidd” a “gwerthfawr”.