19
October
2016
|
12:54
Europe/London

Rhaglen ‘Tackle’ BT Sport Supporters Club yn cael ei lansio

Summary
Lansio’r fenter rygbi gymunedol gyntaf erioed rhwng pedwar tîm proffesiynol Cymru wrth gyflwyno rhaglen addysg rygbi ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd Cymunedau Gyntaf.

Symbylu pobl ifanc ardaloedd difreintiedig i fwynhau Chwaraeon ac Addysg

TACKLE - lansio’r fenter rygbi gymunedol gyntaf erioed rhwng pedwar tîm proffesiynol Cymru heddiw (Mercher 19 Hydref) wrth gyflwyno rhaglen addysg rygbi ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd Cymunedau Gyntaf.

Gyda chyllid gan fenter elusennol BT Sport The Supporters Club, bydd y project yn gweld y pedwar tîm rhanbarthol yn cydweithio â Pro Rugby Wales i weithredu rhaglen gynhwysfawr ac arloesol fydd yn cyfuno rygbi ac addysg.

Bydd y buddsoddiad mewn gwaith cymunedol yn adeiladu ar bartneriaeth BT gyda’r pedwar rhanbarth fel y prif noddwr ers 2014.

TACKLE yw prif fenter chwaraeon The Supporters Club yng Nghymru fel rhan o’i nod i greu dyfodol gwell ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu heriau mawr.

Mae The Supporters Club yn defnyddio rhoddion gan gwsmeriaid BT Sport i fuddsoddi mewn projectau yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, wedi’u dewis mewn partneriaeth gyda Comic Relief. Dros y tair blynedd diwethaf, mae The Supporters Club wedi codi dros £6 miliwn ar gyfer mwy na 40 project yn y DU a thramor - gan gefnogi dros 20,000 person wrth wneud hynny.

Timau cymunedol y Gweilch, Scarlets, Dreigiaid a’r Gleision fydd yn gweithredu rhaglen TACKLE gan ddechrau’r mis hwn (Hydref 2016) - wrth drefnu sesiynau ‘rygbi caets’ ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd Cymunedau Gyntaf yng Nghymru, gan gyfuno sesiynau rygbi gyda lot o hwyl a llwybrau addysg a sesiynau mentora.

Cyllidwyd y rhaglen am ddwy flynedd a bydd yn dechrau wrth weithio gyda phobl ifanc 14-16 oed sydd fwyaf tebygol o stopio cymryd rhan mewn chwaraeon.Bydd TACKLE yn cysylltu â phartneriaid addysg a gyrfaoedd er mwyn helpu pobl ifanc gydag opsiynau addysg a datblygu personol clir; gan helpu i wella hunanhyder, perfformiad yn yr ysgol a sgiliau gwaith.

Bydd yn cyflwyno fersiwn o rygbi mewn cymunedau fydd yn agored, perthnasol a heriol ar gyfer pobl ifanc, gyda chroeso i fechgyn a merched o bob gallu, yn cynnwys rhai nad ydynt wedi chwarae’r gêm o’r blaen. Bydd pedwar swyddog TACKLE yn cynnal y sesiynau - un ym mhob rhanbarth. Gellir cynnal y sesiynau rygbi caets mewn amryw leoliadau nad yw rygbi traddodiadol yn gallu cyrraedd - ar laswellt mewn parciau, stadau tai, llefydd chwarae ysgolion a meysydd parcio, ynghyd â chanolfannau chwaraeon a chymunedol.

Dywedodd Mark Davies, prif weithredwr Pro Rugby Wales sy’n cynrychioli’r pedwar tîm rhanbarthol: “Dyma raglen newydd fydd yn gweld y pedwar rhanbarth yn cydweithio am y tro cyntaf gyda rygbi fel y catalydd i ysbrydoli a symbylu pobl ifanc i fachu ar y cyfleoedd sy’n agored iddynt ym mywyd”.

“I’r mwyafrif ohonom ym maes rygbi dyma beth sy’n bwysig - hysbysu pobl ifanc o werthoedd a mwynhad chwaraeon; mae gennym lawer o chwaraewyr sy’n nodweddu gwerthoedd gorau ein gêm ac yn gallu ysbrydoli pobl o bob oedran, rhyw a gallu i gyrraedd amcanion mewn bywyd. Sef cael pobl ifanc i fwynhau eu hunain a’u cymell i ailgysylltu ag addysg a hyfforddiant, a dysgu sgiliau newydd.”

“Nid mater o osod ffigurau ar daenlenni yw TACKLE, ond canlyniadau gwirioneddol ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig - a byddwn yn edrych i ymestyn y rhaglen gyda chymorth a chyllid partneriaid yng Nghymru - er cynyddu ac ehangu’r effeithiau wrth grynhoi arbenigedd a gwybodaeth.”

Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwraig Cymru BT: “Mae The Supporters Club yn helpu i greu bywydau gwell ar gyfer pobl ifanc drwy chwaraeon, diolch i’r miliynau o bunnoedd a godwyd gan wylwyr BT Sport. Mae TACKLE yn broject cyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r rhaglen wrth ddarparu gwirfoddolwyr a mentoriaidyn ein cymunedau er mwyn helpu pobl ifanc sy’n wynebu heriau mawr”.

Dywedodd cadeirydd Gyrfa Cymru, Debra Williams: “Bydd cydweithio mewn partneriaeth gyda The Supporters Club a Pro Rugby Wales yn ein helpu i gyrraedd ac ysbrydoli pobl ifanc yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

“Amcanion Gyrfa Cymru yw helpu i gryfhau sgiliau gwaith pobl ifanc; cynyddu eu cyfleoedd i gael gwaith wrth helpu i ganfod hyfforddiant neu swyddi addas a darparu cyngor gyrfaoedd effeithiol. Bydd ein gweithdai addysg yn cynnwys amrediad o bynciau yn cynnwys adeiladu hunan ymwybyddiaeth, ymddygiad yn y gweithle a chyfathrebu cynhyrchiol; sgiliau gwerthfawr fydd yn helpu i greu dyfodol gwell ar gyfer pobl ifanc.”

Manylion pellach yn Pro Rugby Wales: www.prorugbywales.com; The Supporters Club:www.thesupportersclub.org; Careers Wales: www.careerswales.com